Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn dechrau talu yn ôl!

Image of hands holding a mobile phone with the Scan Recycle Reward app on the screen (cym)

9 Awst 2023

Image of hands holding a mobile phone with the Scan Recycle Reward app on the screen (cym)
Mae cannoedd o breswylwyr Aberhonddu eisoes wedi dychwelyd ac ailgylchu miloedd o gynhwysyddion diod drwy dreial Sganio|Ailgylchu|Gwobr ac ennill 10c iddynt eu hunain bob tro.

Dros y pedair wythnos ddiwethaf, cafodd treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr ei roi ar waith yn nhref Aberhonddu, â'r gallu i breswylwyr ac ymwelwyr ennill 10c o arian parod fel Gwobr am bob cynhwysydd diod dilys maen nhw'n ei ailgylchu drwy'r cynllun. Gellir dychwelyd y cynhwysyddion, sydd ar gael i'w prynu gan y rhan fwyaf o fanwerthwyr Aberhonddu, a'u hailgylchu gan ddefnyddio blychau ailgylchu ymyl y ffordd yn y cartref, neu drwy un o'r mannau dychwelyd o gwmpas y dref.

I'r rheini sydd eto i gymryd rhan yn y treial, mae digon o amser ar ôl i ymuno ac ennill ychydig o arian parod iddynt eu hunain, neu i'r ddwy elusen ddynodedig leol - Banc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

"Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw sganio unrhyw god QR yn y treial (sydd yn y pecyn croeso wnaethoch chi ei dderbyn drwy'r post, ar y sticeri gwyrdd 10c ar gynhwysyddion diod, ar beiriannau wedi eu hawtomeiddio yn Morrisons a Chanolfan Hamdden Aberhonddu, neu ar y bin cymunedol y tu allan i Greggs ac Aldi). Cofrestrwch eich cyfeiriad e-bost a dechreuwch ennill." Esbonia Duncan Midwood o Circularity Solutions, y cwmni sy'n arwain treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr ar ran Cynghrair DDRS Alliance, Llywodraeth Cymru, WRAP Cymru, Cyngor Sir Powys a manwerthwyr lleol.

"Nid yn unig allwch chi ddychwelyd ac ailgylchu eich cynhwysyddion drwy eich blychau ailgylchu arferol yn y cartref, ond hefyd gallwch eu dychwelyd dros y cownter yn siopau Holland & Barrett, Spar neu Premier drwy'r biniau cymunedol neu drwy'r peiriannau wedi'u hawtomeiddio. Does dim rheswm, wir, i beidio â chymryd rhan!

"A pheidiwch â phoeni os nad oes ffôn clyfar gennych chi, gallwch ymuno drwy ddefnyddio opsiwn dros y cownter a pheiriannau wedi'u hawtomeiddio heb ffôn."

Caiff diodydd meddal mewn carton, caniau, poteli plastig a photeli gwydr (ac eithrio aml-becynnau) eu cynnwys yn y treial - edrychwch allan am y sticer gwyrdd 10c pan fyddwch mewn siop yn Aberhonddu nesaf.

Bydd y tîm Sganio|Ailgylchu|Gwobr ar gael dros yr ychydig wythnosau nesaf yn siopau Aldi, Coop a Morrisons i ateb cwestiynau a'ch helpu chi i gychwyn arni - edrychwch allan amdanynt pan fyddwch chi'n siopa nesaf.

Yn y cyfamser, ewch i Sganio | Ailgylchu | Gwobr am ragor o wybodaeth.