Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dal i fod amser i ddweud eich dweud am yr Adolygiad Hamdden Powys

Icons of various sports with 'Dweud eich Dweud' and 'Have your say' in speech bubbles

10 Awst 2023

Icons of various sports with 'Dweud eich Dweud' and 'Have your say' in speech bubbles
Mae'r Cyngor Sir wedi dweud bod dal i fod amser i ddweud eich dweud am Adolygiad Hamdden Powys.

Dechreuodd yr adolygiad ar ddydd Llun 3 Gorffennaf sy'n ystyried y ddarpariaeth, defnydd, costau rhedeg, allyriadau carbon a chyflwr yr adeiladu sydd ar gynnig ar hyn o bryd, yn ogystal â'r cyfleoedd hamdden actif eraill sydd ar gael i bobl Powys.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Er mwyn ehangu'r data cyfranogiad a'r data ariannol sydd gennym eisoes, gofynnwn am eich barn i'n helpu llunio cynnig hamdden cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r arolwg hwn yn llunio rhan o ymgysylltiad cyhoeddus ledled y sir i roi'r cyfle i gynifer o bobl ag sy'n bosibl i gyflwyno'u safbwyntiau a'u syniadau ynghylch gwella a chefnogi ein cyfleusterau hamdden.

"Rwyf yn annog cynifer o bobl ag sy'n bosibl i ddweud eu dweud yn y rhan bwysig hon o'n hadolygiad hamdden."

Am ragor o fanylion am yr adolygiad ac i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu ar-lein ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/adolygiad-hamdden-powys-2023

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael i chi eu casglu o'ch llyfrgell leol ac ar ôl i chi eu cwblhau gallwch eu rhoi yn ôl i'r staff mewn Canolfan Hamdden Freedom neu Lyfrgell ym Mhowys, neu gallwch sganio ac yna e-bostio:  haveyoursay@powys.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Llun 28 Awst 2023.