"Rydym wedi gweld ein hunain pa mor bwysig yw i bobl ifanc sy'n derbyn gofal aros yn agos at eu cartref, ysgol a rhwydweithiau cymdeithasol."
14 Awst 2023
Mae Maethu Cymru Powys - sy'n rhan o'r rhwydwaith sy'n cynrychioli'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru - yn galw ar fwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth gyda'r awdurdod lleol, ac yn annog y sawl sy'n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth ddi-elw i drosglwyddo i dîm eu hawdurdod lleol.
Yn ôl y Cyng. Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae nifer fawr o fuddion yn gysylltiedig â bod yn Ofalwr Maeth gyda'r cyngor lleol - o gefnogaeth a hyfforddiant i naws cymunedol, ond yn anad dim, yr opsiwn i'r bobl ifanc aros yn ein sir ni.
"Os hoffech ddysgu rhagor am Faethu gyda'r Cyngor, croeso ichi gysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol."
Mae'r gofalwyr maeth Emma a Dan, sydd wedi newid o asiantaeth annibynnol i Faethu Cymru Powys, yn egluro'r gwahaniaeth a brofwyd trwy faethu gyda'r awdurdod lleol.
Dywed Emma a Dan, sy'n ofalwyr maeth ym Mhowys: "Wnaethon ni ddechrau maethu trwy asiantaeth, ond wnaethon ni newid i faethu gyda'r Awdurdod Lleol cwpl o flynyddoedd yn ôl Ein bwriad oedd canolbwyntio ein hymdrechion ar weithio i wasanaeth yn hytrach na busnes, a dyna'r teimlad oedd gennym am ein hasiantaeth.
"Roedd yn bwysig inni deimlo naws agosrwydd cryfach, a gweithio ochr yn ochr â'n hawdurdod lleol yn ein cymuned leol.
"Yn ein rôl fel gofalwyr maeth, rydym wedi gweld ein hunain, pa mor bwysig yw i bobl ifanc sy'n derbyn gofal aros yn agos at eu cartref, ysgol a rhwydweithiau cymdeithasol.
"Mae angen gofalwyr maeth ar yr awdurdodau lleol er mwyn gwireddu hyn, a'n gobaith yw bod yn rhan o'r ateb, i fod yn rhan o dîm a gwasanaeth ehangach sy'n maethu gyda naws teuluol a chymunedol.
"Ar ôl 10 mlynedd fel gofalwyr maeth, rydym yr un mor angerddol ag erioed; rydym yn eiriolwyr brwd ar ran y plant a'r bobl ifanc, ac yn cael hyd i ffyrdd newydd bob dydd i gael ein hannog, bod yn awyddus ac yn hynod fodlon gyda'n gwaith."
Mae Maethu Cymru Powys yn annog mwy o bobl fel Emma a Dan i agor eu cartrefi i helpu meithrin dyfodol gwell ar gyfer plant lleol mewn angen.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â maethu, a sut i drosglwyddo i Faethu Cymru Powys os ydych chi'n maethu'n barod, ewch i:
Gwefan: powys.maethucymru.llyw.cymru
Ffôn: 0800 22 30 627
Ebost: fostering@powys.gov.uk