Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dirwy i breswyliwr o'r Drenewydd am ollwng sbwriel mewn safle ailgylchu lleol

Image of a contaminated card bank

15 Awst 2023

Image of a contaminated card bank
Mae preswyliwr o ogledd Powys wedi derbyn dirwy o £400 am ollwng bagiau o sbwriel yn y banc ailgylchu cardfwrdd yn y safle ailgylchu cymunedol lleol ym Maes Parcio Lôn Gefn, yng nghanol dref y Drenewydd.

Wrth iddynt gyflawni patrôl arferol yn yr ardal, daeth swyddogion gorfodi ac ymwybyddiaeth o wastraff y cyngor ar draws pentwr o bump o fagiau du yn llawn sbwriel cartref wedi eu taflu i mewn i'r banc ailgylchu cardfwrdd. Ar ôl astudio'r gwastraff, daethpwyd o hyd i dderbynneb pryd parod, gan gysylltu'r gwastraff â phreswyliwr lleol.

Rhoddwyd enw i'r un a ddrwgdybiwyd, ac yna fe'i holwyd o dan rybuddiad. Ar ôl cyfaddef ei fod wedi tipio ei sbwriel yn anghyfreithlon yn y safle ailgylchu cymunedol, cafodd y cynnig i setlo'r mater y tu allan i'r llys drwy dalu Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 o dan Adran 33 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

"Rydym wedi'n brawychu gan y mathau o sbwriel y down o hyd iddynt yn ein safleoedd ailgylchu cymunedol." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Does dim parch gan rai o'n preswylwyr, wrth iddynt ddewis yn ddiog i dipio eu gwastraff yn anghyfreithlon yn y cyfleustodau ailgylchu cymunedol hyn.

Nid yn unig yw'r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn yn golygu fod yn rhaid i'n staff sortio drwy'r banciau â llaw, ond hefyd mae'n arwain at yr holl ddeunydd sy'n cael ei ailgylchu yn gywir yn cael ei wrthod gan y proseswyr ailgylchu oherwydd llygredd. Mae gweithredoedd hunanol ychydig o bobl anghyfrifol yn arwain at wastraff enfawr o ymdrech ac amser pawb arall.

Nid oes unrhyw oddefgarwch gan y cyngor at dipio anghyfreithlon, a chaiff pob digwyddiad ei archwilio'n drylwyr gan ein tîm gorfodi a chaiff dirywion eu cyflwyno i'r sawl sy'n gyfrifol."

Caiff aelodau o'r cyhoedd eu hannog i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau o lygredd y maen nhw'n dod ar eu traws neu'n dyst iddynt yn y safleoedd ailgylchu cymunedol. Bydd hyn ynghyd â'r CCTV sydd gennym mewn lle mewn llawer o'r safleoedd ac archwiliadau ein swyddogion gorfodi ac ymwybyddiaeth o wastraff, yn helpu i ddal a cheryddu troseddwyr yn briodol. Gall unigolion sy'n cael eu canfod yn euog o dipio sbwriel yn fwriadol yn y banciau ailgylchu ddisgwyl derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.