Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dysgwyr yn dathlu canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3

Image of two people celebrating their exam results

17 Awst 2023

Image of two people celebrating their exam results
Mae'r cyngor sir heddiw (dydd Iau 17 Awst) wedi llongyfarch dysgwyr Powys ar eu cyraeddiadau ar ôl derbyn canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3.

Mae Cyngor Sir Powys yn falch i glywed am y nifer fawr o ddysgwyr a gafodd y canlyniadau oedd eu hangen i symud ymlaen i'r cam nesaf at ddyfodol cyffrous, un ai mewn prifysgol, i brentisiaeth neu i'r gweithle.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn longyfarch pob un o'n dysgwyr ar eu canlyniadau heddiw.

"Rwy'n hynod falch o gyraeddiadau pob un o'n dysgwyr ac mae'n braf clywed am eu llwyddiannau.

"Rwyf am ddiolch i bawb yn yr ysgolion am gefnogi'r dysgwyr trwy eu harholiadau a hefyd i'w teuluoedd am eu rôl hanfodol yn cefnogi ac yn annog eu plant trwy gydol eu haddysg.

"Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r dysgwyr yn eu pennod nesaf."