Diwrnod recriwtio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Trallwng
22 Awst 2023
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal digwyddiad recriwtio ar y cyd yn Neuadd y Dref yn y Trallwng ar ddydd Llun 11 Medi rhwng 10am-5pm er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.
Ar y diwrnod, gallwch ddysgu ynghylch y swyddi sydd ar gael ar draws gogledd Powys a chael sgwrs anffurfiol gyda staff. Os bydd yr hyn rydych yn ei glywed yn eich plesio, gallwch wneud cais a chael cyfweliad ar y diwrnod, a gallwch hyd yn oed fynd oddi yno gyda chynnig swydd amodol!
Bydd Cyngor Sir Powys yn recriwtio ar gyfer gweithwyr ym maes gofal a chymorth. Dywed Sian Cox, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Powys Ofalgar: "Mae ein gofalwyr yn cefnogi pobl gydag anghenion dyddiol i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd yn ardaloedd Y Drenewydd a'r Trallwng, felly dewch draw i'r digwyddiad i gael rhagor o fanylion.
"Hwyrach nad ydych yn meddwl fod gofal cymdeithasol yn addas ichi, ond os byddwch yn mwynhau cysylltu â phobl ac rydych yn awyddus i gefnogi pobl i adael yr ysbyty unwaith maent yn ddigon iach i wneud hynny i'w dewis lle - hwyrach y bydd yn eich siwtio! Roeddwn i'n weithiwr cymorth am 30 mlynedd; mae'n gallu bod yn heriol yn aml iawn, ond hefyd mae'n werth chweil. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl, ac yn cyfrannu at leihau'r pwysau anhygoel ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn ein sir."
Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ystod eang o gyfleoedd ar gael; o weithwyr cymorth gofal iechyd i nyrsys a therapyddion cymwys. Gall y bwrdd iechyd eich cefnogi i hyfforddi fel nyrs cymwys heb orfod gadael Powys, a chael eich talu wrth hyfforddi. Hefyd mae'r bwrdd iechyd yn cyflogi ystod eang o swyddi eraill, felly piciwch draw i ddysgu rhagor.
I ddysgu rhagor am y digwyddiad ewch i: cy.powys.gov.uk/DiwrnodRecriwtioAgored