Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dysgwyr yn dathlu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2

Image of two people celebrating their exam results

24 Awst 2023

Image of two people celebrating their exam results
Mae'r cyngor sir heddiw (dydd Iau 24 Awst) wedi llongyfarch dysgwyr Powys ar eu cyraeddiadau ar ôl derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2.

Mae Cyngor Sir Powys yn falch iawn i glywed am y nifer fawr o ddysgwyr a gafodd y canlyniadau oedd eu hangen i symud ymlaen i'r cam nesaf ar eu llwybr gyrfa, boed mewn addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn longyfarch pob un o'n disgyblion a gafodd eu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 heddiw.

"Rwyf yn falch iawn o gyraeddiadau pob un o'n dysgwyr, a phleser enfawr yw clywed straeon am eu llwyddiant.

"Rwyf am ddiolch i bawb yn yr ysgolion am gefnogi'r dysgwyr trwy eu harholiadau a hefyd i'w teuluoedd sydd wedi chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi ac annog eu plant trwy gydol eu haddysg.

"Wrth edrych tua'r dyfodol buaswn yn annog pob dysgwr i geisio cyngor ac arweiniad ar yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt gan gynnwys yr opsiwn i fynd i'r Chweched Dosbarth ym Mhowys.

"Dymunaf bob llwyddiant i'n holl ddysgwyr yn y dyfodol."

I ddysgu rhagor am opsiynau Chweched Dosbarth Powys, ewch i www.powys6.cymru