Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor Sir Powys yn barod i lofnodi partneriaeth awdurdod lleol arloesol

Image of two people shaking hands

29 Awst 2023

Image of two people shaking hands
Mae Cyngor Sir Powys yn barod i gadarnhau cytundeb arloesol gydag awdurdodau cyfagos yng Nghymru a Lloegr. 

Bydd y Bartneriaeth Gororau Ymlaen arfaethedig yn gweld Powys yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Amwythig a Chyngor Sir Henffordd.  Byddant yn ymuno a'i gilydd i wneud cais am gyllid gan y llywodraeth ar brosiectau mawr a fydd o fudd i'w rhanbarthau ar y cyd.

Bydd pob awdurdod yn cadw ei hunaniaeth a'i annibyniaeth ei hun. Byddant yn parhau i ddarparu gwasanaethau i breswylwyr a busnesau yn y ffordd arferol ond byddant yn gweithio gyda'i gilydd, fel partneriaid, lle mae budd i'r ddwy ochr a gwerth ychwanegol.  Mae'n debygol y bydd y meysydd o fuddiannau trawsffiniol yn cynnwys trafnidiaeth, sgiliau a thai ochr yn ochr ag ynni, newid hinsawdd a chysylltedd digidol - materion cyffredin i boblogaeth o dros 735,000.

Rhagwelir y bydd y cydweithio arfaethedig a pharodrwydd y cyngor i gydweithio yn cynyddu buddsoddiad cyffredinol y llywodraeth, gan ddatgloi miliynau o bunnoedd ar gyfer mentrau dynodedig a fydd yn cefnogi economi wledig a thwf gwyrdd y rhanbarth.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae potensial mawr os gallwn gytuno i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd.

"Mae'n adlewyrchu daearyddiaeth yr ardal ac ar yr un pryd mae'n cydnabod rhai o'r pethau cyffredin rhyngom.  Mae wastad wedi bod cefnogaeth drawsffiniol i'n gilydd, felly mae'r bartneriaeth arfaethedig hon yn ddilyniant naturiol ac yn cyd-fynd yn gyfforddus â'r blaenoriaethau yn ein Cynllun Gwella Corfforaethol a Chydraddoldeb - Cryfach, Tecach, Gwyrddach.

"Rydym eisoes yn siarad â'r llywodraeth am y manteision y gall ein cydweithio eu cynnig ac mae'n frwdfrydig am y potensial ar gyfer y rhanbarth ehangach.

"Rydym yn bwriadu llofnodi cytundeb a fydd yn cadarnhau'r trefniadau gweithredol rhwng y pedwar cyngor ym mis Hydref.  Fodd bynnag, nid oes unrhyw oblygiadau costau nac unrhyw beth yn ein hatal rhag gweithio gydag awdurdodau a phartneriaid eraill ar unrhyw adeg nawr neu yn y dyfodol.

"Mae'n gyffrous ac yn wir yn arloesol i awdurdodau cyfagos yng Nghymru a Lloegr i gydweithio a'i gilydd fel hyn.  Yn naturiol, mae cysylltiadau cryf rhyngom, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein treftadaeth gyffredin ac edrych ymlaen at y dyfodol.  Rydym yn gobeithio y gallwn chwalu'r rhwystrau trawsffiniol artiffisial sy'n bodoli a gyda'n gilydd gymryd rheolaeth dros rai o'r materion mawr sy'n bwysig i gymaint o bobl."