Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

A oes gennych gwestiwn am wasanaethau'r cyngor?

Image of County Hall

30 Awst 2023

Image of County Hall
Mae pobl sy'n byw, gweithio neu'n astudio ym Mhowys yn cael eu gwahodd i gyflwyno cwestiwn i gyfarfod llawn nesaf y cyngor sir ar ddydd Iau 5 Hydref.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â'r sir a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor, ac os derbynnir y cwestiynau gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, fe fyddant yn cael eu hychwanegu at yr agenda yn y drefn y derbynnir hwy.

Mae'r cyngor yn darparu slot 20 munud ar ddechrau pob cyfarfod llawn o'r cyngor ar gyfer cwestiynau'r cyhoedd a dim ond pedwar cwestiwn dilys gaiff eu hystyried yn y drefn y cawsant eu derbyn.

Bydd dau gwestiwn a gafwyd eu gohirio o gyfarfod y cyngor ym mis Gorffennaf yn cael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod llawn y Cyngor ym mis Hydref.

Os bydd y cyngor yn derbyn mwy na dau gwestiwn, bydd cwestiynau dilys eraill yn cael eu gohirio i gyfarfod llawn y cyngor ym mis Rhagfyr.

I gyflwyno cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Hydref , anfonwch hwy dros e-bost at publicquestions@powys.gov.uk erbyn 5pm ar ddydd Mercher 20 Medi.

Gellir gweld y cyfarfod yn Neuadd y Sir, Llandrindod, sy'n cael ei fynychu gan rai cynghorwyr wyneb yn wyneb a gan eraill dros Zoom, trwy wefan y cyngor.

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor ar gael yma: https://powysw.moderngov.co.uk/ecSDDisplay.aspx?NAME=SD672&ID=672&RPID=9845814