Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cyngor yn falch o noddi Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru 2023

Image of Service Children Awards Cymru with Powys countryside in background

4 Medi 2023

Image of Service Children Awards Cymru with Powys countryside in background
Mae seremoni wobrwyo a fydd yn dathlu cyflawniadau Plant y Lluoedd Arfog ledled Cymru yn cael ei noddi gan Gyngor Sir Powys.

Bydd Seremoni Wobrwyo Plant y Lluoedd Arfog Cymru 2023 yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yng Nghymru, yn Ysgol Frwydro Troedfilwyr Aberhonddu ddydd Sadwrn, 28 Hydref.

Mae'r gwobrau, sy'n cael eu noddi gan y cyngor, yn cael eu cyflwyno gan Veterans Awards CIC mewn partneriaeth â SSCE Cymru gyda chefnogaeth gan y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae gan Gymru nifer uchel o Blant y Lluoedd Arfog sy'n disgleirio yn eu cymunedau.  Bydd y gwobrau hyn yn cydnabod ymdrechion yr unigolion hynny sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn eu hymdrechion, ac yn tynnu sylw at brofiadau Plant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rwy'n falch iawn bod Cyngor Sir Powys yn cefnogi ac yn noddi Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru.

"Mae'r gwobrau hyn yn bwysig gan eu bod yn cydnabod yr heriau a'r manteision y mae Plant y Lluoedd Arfog yn eu cael pan fydd un neu fwy o'u rhieni yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

"Mae'r gwobrau newydd hyn yn cynnig cyfle cyffrous inni ddathlu ynghyd lwyddiannau Plant ein Lluoedd Arfog. Mae'n anrhydedd i Bowys ein bod yn cynnal y gwobrau cyntaf hyn ac edrychwn ymlaen at weld y plant enwebedig a'u teuluoedd yn yr achlysur."

I gael gwybod mwy am Wobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru neu i enwebu, ewch https://veteransawards.co.uk/welsh-veterans-awards/service-children-awards/