Llyfrau i blant CA2
Teitl y Llyfr A Shelter for Sadness
Gwybodaeth am y llyfr Mae tristwch wedi dod i fyw gyda mi ac rwyf yn adeiladu lloches iddo.
Rwy'n adeiladu lloches i'm tristwch ac yn ei groesawu i mewn.
Mae bachgen bach yn creu lloches i'w dristwch, man diogel lle mae croeso i Dristwch, lle gall gyrlio'n fach, neu fod mor fawr ag y gall fod, lle gall fod yn swnllyd neu yn dawel, neu unrhyw beth yn y canol.
Awdur Anne Booth
ISBN-10 1787417212
ISBN-13 978-1787417212
Ystod oedran 5-11
Teitl y Llyfr Why Mum? A Small Child Dealing With A Big Problem
Gwybodaeth am y llyfr Llyfr lluniau i blant yn archwilio salwch difrifol rhiant trwy lygaid Matthew sy'n saith oed. Mae'n gweithio'n gronolegol trwy'r salwch ac yn delio â'r gwahanol deimladau a chwestiynau y mae'r plentyn yn eu profi wrth iddynt godi.
Awdur Catherine Thornton
ISBN-10 1853908916
ISBN-13 978-1853908910
Ystod oedran 6-11
I archebu unrhyw un o'r llyfrau o un o lyfrgelloedd Powys, dilynwch y ddolen isod: