Gwasanaethau Iechyd a Lles Emosiynol i Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Mae gwybod sut i siarad gyda'ch plentyn am eu hiechyd a'u lles emosiynol, ac adnabod yr arwyddion eu bod o bosibl yn poeni, yn bryderus neu dan bwysau yn gallu bod yn wirioneddol anodd.
Felly, dyma ychydig o arwyddion i chi gadw golwg amdanynt:
- Hwyliau isel, tristwch, yn ddagreuol yn aml
- Lleisio/dangos teimladau o anobaith a bod yn ddiymadferth
- Croendenau, a diffyg goddefgarwch tuag at eraill
- Diffyg mwynhad mewn pethau a oedd unwaith o ddiddordeb iddynt
- Ynysu ac arwahanrwydd cymdeithasol cynyddol (gan gynnwys cymdeithasu ar-lein)
- Patrymau cysgu sydd wedi'u haflonyddu