Toglo gwelededd dewislen symudol

Powys yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2023

Gas Safety Week 2023

06 September 2023

Gas Safety Week 2023
Mae Cyngor Sir Powys wedi addo cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy (11 - 17 Medi 2023).

Nod Wythnos Diogelwch Nwy yw atgoffa'r cyhoedd a busnesau am sut i gadw eu hunain yn ddiogel, ac mae sefydliadau o bob cwr o'r genedl yn gweithio gyda'i gilydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer nwy nad ydynt yn cael eu cynnal a chadw'n iawn, sy'n gallu arwain at nwy yn gollwng, tânau, ffrwydradau a gwenwyn carbon monocsid.

Eleni, mae Wythnos Diogelwch Nwy yn canolbwyntio ar ddathlu ehangder ac amrywiaeth peiriannwyr nwy a'u rôl hanfodol yn cadw'r genedl yn ddiogel.  Yn ogystal ag atgoffa'r cyhoedd a busnesau am ddiogelwch nwy ac awgrymiadau i sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel, gan gynnwys peidio ceisio gwneud gwaith eich hun ar offer nwy a bod yn ymwybodol o arwyddion offer peryglus.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel, "Rydym yn falch i gefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2023 a helpu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel.

"Hoffwn annog holl drigolion Powys, i fod yn wyliadwrus.  Dilynwch gyngor ac arweiniad 'Cofrestr Diogelwch Nwy' gan y bydd yn helpu i sicrhau nad yw eich offer nwy yn gollwng a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio. 

"Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio peiriannydd cofrestredig cymwys 'Cofrestr Nwy Diogel', ac os nad yw'n edrych yn iawn, cysylltwch â 'Cofrestr Nwy Diogel' a fydd yn gallu eich helpu chi."

Dywedodd Jonathan Samuel, Prif Weithredwr 'Cofrestr Nwy Diogel': "Rydym yn hynod o falch i weld cymaint o gefnogaeth i Wythnos Diogelwch Nwy 2023 - nawr yn ei thrydedd flwyddyn ar ddeg.  Eleni rydym yn dathlu ehangder ac amrywiaeth peirianwyr nwy, a'u sgiliau a phrofiadau sy'n helpu i gadw'r genedl yn ddiogel trwy gydol y flwyddyn.  Ac rydym yn atgoffa'r cyhoedd o'r pwysigrwydd o gael peiriannydd cofrestredig, cymwys 'Cofrestr Nwy Diogel' i drwsio, gosod neu wasanaethu eu hoffer nwy".

I gael y diweddaraf 'Cofrestr Nwy Diogel' a chyngor trwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy, dilynwch  @GasSafeRegister ar Facebook, Twitter ac Instagram a chwilio am #GSW22 a #GasSafetyWeek. 

I'ch cadw chi a'r teulu'n ddiogel, dyma rai awgrymiadau gan 'Cofrestr Nwy Diogel':

  • Deall symptomau gwenwyn CO; cur pen, cyfog, diffyg anadl, pendro, llewygu a cholli ymwybyddiaeth.
  • Chwiliwch am arwyddion y gall eich offer fod yn beryglus, megis staeniau tywyll neu huddyglyd o amgylch yr offer, cyddwysiad a'r fflamau peilot yn diffodd yn aml.
  • Cofiwch beidio blocio'r tyllau awyr gan eu bod yno i helpu'r offer weithio'n ddiogel ac yn effeithlon.
  • Os ydych chi'n arogli nwy neu'n ofni bod nwy yn gollwng, galwch rif ffôn brys y gwasanaeth nwy ar 0800 111 999. 
  • Peidiwch byth â cheisio gweithio ar yr offer nwy eich hun, dylech bob amser geisio cymorth peiriannydd cymwys sydd wedi cofrestru â 'Cofrestr Nwy Diogel'.
  • Os ydych chi'n trefnu eich gwiriad diogelwch blynyddol, defnyddiwch beiriannydd cymwys sydd wedi cofrestru â 'Cofrestr Nwy Diogel' yn unig.
  • Dylech bob amser gofyn i weld cerdyn ID eich peiriannydd 'Cofrestr Nwy Diogel'.  Cofiwch edrych ar gefn y cerdyn sy'n nodi ar ba offer nwy y mae ganddynt y cymwysterau i weithio arnynt.

'Cofrestr Nwy Diogel' yw'r gofrestr swyddogol ar gyfer peirianwyr sy'n gymwys yn gyfreithiol. I ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig yn eich ardal chi, ewch i wefan Cofrestr Nwy Diogel GasSafeRegister.co.uk