Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu i'w hadnewyddu

Image showing a recycling icon

21 Medi 2023

Image showing a recycling icon
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu ar Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn cau dros dro ddydd Iau 16 Tachwedd fel bod gwaith uwchraddio diogelwch pwysig yn cael ei wneud i wella profiad y defnyddiwr ar y safle. 

Bydd y gwaith adnewyddu'r ganolfan ailgylchu yn cynnwys mannau caled diogel ar draws y safle, uwchraddio'r gwaith draenio, gwell system un-ffordd gyda mynediad haws ac ardal parcio mwy diogel, ac ardal benodol ar gyfer gadael eitemau i'w 'hail-ddefnyddio'.  Bydd y gwaith yn dechrau dydd Iau 16 Tachwedd, ac yn cymryd tua tri mis i'w gwblhau.

Er na fydd llawer o'r gwelliannau i'r safle yn amlwg i ymwelwyr, maen nhw'n hanfodol i sicrhau bod y cyfleuster yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, yn gweithredu'n ddiogel, ac yn parhau i roi mynediad hawdd i ymwelwyr i'w ddefnyddio.

"Rydyn ni'n gwybod na fydd y newyddion y bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu ar gau am dri mis yn cael ei groesawu, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae angen gwneud y gwaith adnewyddu hanfodol hwn sydd wedi'i gynllunio i sicrhau diogelwch pob defnyddiwr a bod y safle'n parhau i fod yn addas i'w ddefnyddio i'r dyfodol.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Potter Group, sy'n rhedeg canolfannau ailgylchu'r cyngor, a'r contractwyr i sicrhau ein bod wedi dewis amser tawelaf y flwyddyn a'n bod yn cadw'r amser y bydd y safle ar gau i'r cyfnod lleiaf posibl.

"Gyda sir mor fawr a gwasgaredig â Phowys, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu deithio'n llawer pellach i ymweld â chanolfan ailgylchu arall tra bod y gwaith adnewyddu yn digwydd. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."

Tra bod y ganolfan ailgylchu ar gau, bydd trigolion sy'n dymuno ailgylchu eitemau nad ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd, yn gallu ymweld ag un o'r pedair canolfan arall yn y sir, gyda'r un  agosaf ohonynt yn Llandrindod (ar agor Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul) a Chwmtwrch Isaf (ar agor Llun, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul).

Gellir mynd â chardfwrdd i unrhyw un o'r safleoedd ailgylchu cymunedol lleol canlynol:

Aberhonddu - Richway
Crughywel
Cwmdu
Y Gelli Gandryll
Llangynidr
Pontsenni
Talgarth

Er ein bod yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu dal gafael ar eu gwastraff a'u hailgylchu na ellir eu casglu drwy gasgliadau ymyl y ffordd drwy gydol y cyfnod cau, neu i fynd ag ef i safle arall, rydym yn gwerthfawrogi nad yw hyn mor hawdd ar gyfer gwastraff gardd. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn bwriadu darparu trefniadau eraill i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff gardd dros fisoedd yr hydref/gaeaf a byddwn yn cyhoeddi hynny cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Edrychwch ar-lein am fanylion a diwrnodau ac amseroedd agor holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Powys: Canolfannau Ailgylchu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu