Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfarwyddwyr Dros Dro

Image of Diane Reynolds and Matt Perry

22 Medi 2023

Image of Diane Reynolds and Matt Perry
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bydd dau gyfarwyddwr dros dro yn ymuno â Thîm Rheoli Gweithredol y Cyngor fis nesaf.

Bydd Matt Perry yn ymuno â'r tîm fel Cyfarwyddwr dros dro yr Amgylchedd a Diane Reynolds fel Cyfarwyddwr Dros Dro yr Economi a Chymunedau. Daw'r ddau apwyntiad i rym ar 30 Hydref.

Daw'r penodiadau yn dilyn ymddiswyddiad Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd Nigel Brinn a'i benodiad i swydd Prif Weithredwr Cyngor Dosbarth Forest of Dean. 

Matt fydd yn gyfrifol am feysydd gwasanaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu ac Eiddo, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

Bydd Diane yn gyfrifol am Ddatblygu Economaidd a Gwasanaethau Cymunedol.  Gan nodi bod y tîm Gwasanaethau Cymunedol yn cynnwys Hamdden, Llyfrgelloedd, Diwylliant, Arlwyo a Glanhau.  Yn ogystal, bydd Diane yn arwain ar nifer o brosiectau gwaith rhanbarthol allweddol fel y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol,Tyfu Canolbarth Cymru a Phartneriaeth Twf y Gororau.

Llongyfarchodd y Prif Weithredwr Jack Straw y ddau ar eu penodiad a chroesawodd eu hychwanegu  at y Tîm Gweithredol gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw yn eu rolau newydd.

"Mae Matt a Diane yn dod â chyfoeth o brofiad i'r tîm ac maen nhw wedi dangos yn glir eu hangerdd am eu meysydd gwasanaeth a gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Mae gennym heriau enfawr o'n blaenau fel Awdurdod Lleol ac rwy'n siŵr y bydd Diane a Matt yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â nhw," meddai.

Bydd adolygiad llawn o'r trefniadau uwch reolaethol ar gyfer yr awdurdod yn cael ei gynnal yn dilyn penodi Prif Swyddog Gweithredol parhaol.