Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gofyn am farn busnesau am dirwedd sgiliau Canolbarth Cymru

Image of Mid Wales Regional Skills Partnership logo

22 Medi 2023

Image of Mid Wales Regional Skills Partnership logo
Mae gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i'w ddweud am yr heriau rydych yn eu hwynebu fel busnes ac ar hyn o bryd mae'n cynnal arolwg byr, 5 munud o hyd i ddarganfod mwy am yr heriau hyn, yn enwedig o ran recriwtio sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, ar y cyd: "Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y dirwedd sgiliau ar gyfer Canolbarth Cymru - trwy ateb yr ychydig gwestiynau hyn gall y Bartneriaeth (nhw) gasglu data pwysig a fydd yn llywio ac yn dylanwadu ar newid yn y lleoedd cywir. 

"Ein gobaith yw bod yr arolwg hwn yn galluogi busnesau i rannu eu profiadau ar fynd i'r afael â'u heriau sgiliau ac uwchsgilio eu gweithlu ar gyfer y dyfodol; a helpu'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa ddarpariaeth sgiliau sydd ei hangen arnom er mwyn i'r economi a phobl ar draws Canolbarth Cymru ffynnu."

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn rhan o dîm ehangach Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'n un o bedair partneriaeth sgiliau rhanbarthol yng Nghymru. Yn bartneriaeth a arweinir gan fusnesau yn bennaf, mae'n gweithio gydag arweinwyr a rhanddeiliaid busnesau ar draws y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad lafur er mwyn ysgogi buddsoddiad sy'n bodloni gofynion cyflogwyr a'r gweithlu.

Dolen i'r arolwg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/MWRSPSURVEY?lang=cy

Cynhelir yr arolwg tan ddydd Gwener 27ain Hydref.

I gael yr holl newyddion diweddaraf am y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, gallwch danysgrifio i gylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk neu ddilyn ar X/Twitter a LinkedIn.