Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Bardd Plant yn ymweld â Phowys

Waterstones Children’s Laureate, Joseph Coelho

25 Medi 2023

Waterstones Children’s Laureate, Joseph Coelho
Mae Bardd Plant DU wedi ymweld â llyfrgell yng nghanolbarth Powys, yn ôl y cyngor sir.

Daeth y bardd perfformio gwobrwyedig, dramodydd ac awdur plant, Joseph Coelho, ar ymweliad i Lyfrgell Tref-y-Clawdd fel rhan o'i genhadaeth 'Marathon Llyfrgelloedd' genedlaethol i ymweld â llyfrgelloedd ym mhob sir yng Nghymru. Roedd Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2022-2024 yn y llyfrgell ddydd Mawrth 12 Medi.

Nod yr ymweliad oedd annog pobl o bob oed i ymuno â'u llyfrgell leol a hybu'r rôl hanfodol mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yn y gymuned. Mae Joseph hefyd am ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith pobl ifanc. 

Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth Joseph berfformio peth o'i farddoniaeth i blant ysgol a chyd-weithio â nhw i gyfansoddi eu barddoniaeth eu hunain. Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol, cydweithiodd y plant i gyfansoddi eu cerddi eu hunain yn seiliedig ar ei ysbrydoliaeth ar YouTube.

Fel rhan o'i nod i ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol yn y DU, gwnaeth Joseph ymuno â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys a benthyg ychydig o lyfrau.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Roedd yn grêt cael croesawu Joseph i'n llyfrgell yn Nhref-y-Clawdd ac i Bowys ac i gynrychioli'r sir yn nhaith Bardd Plant Waterstones o gwmpas Cymru.

"Mae taith brysur iawn dros naw dydd ar y gweill gan Joseph a fydd yn gwneud gwyrthiau wrth helpu i hybu a hyrwyddo llyfrgelloedd a darllen ledled Cymru a'r DU."