Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gall dros 500 o gartrefi yn ardal Ceri golli allan ar fand eang gwibgyswllt

A woman using a laptop and computer mouse

28 Medi 2023

A woman using a laptop and computer mouse
Mae trigolion a busnesau ardal Ceri'n cael eu hannog i ystyried ymuno â chynllun Openreach a all olygu fod dros 500 o eiddo'n cael mynediad at fand eang gwibgyswllt.

Mae'r cwmni wedi dweud wrth Gyngor Sir Powys y gall y prosiect fod yn y fantol oni fydd mwy o bobl yn y pentref yn cytuno i wneud cais am Dalebau Gigadid Llywodraeth y DU a fydd yn cael eu defnyddio i helpu ariannu ymestyn y rhwydwaith ffibr llawn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gynllun Openreach ar gael ar wefan y cwmni: https://www.openreach.com/news/kerry-risks-missing-out-on-ultrafast-broadband/

Gall trigolion a busnesau ardal Ceri wirio a ydynt yn gymwys trwy nodi eu cod post ar wefan Openreach - Connect My Community: https://www.openreach.com/connectmycommunity

Ni fydd unrhyw gost i drigolion a busnesau trwy ddefnyddio Talebau Gigadid Llywodraeth y DU i helpu talu am y gwaith, ond bydd gofyn iddyn nhw ymrwymo i archebu gwasanaeth ffibr llawn gan eu dewis darparwr am o leiaf 12 mis unwaith y bydd y rhwydwaith newydd ar gael, a chadarnhau eu bod wedi cysylltu.

Mae rhagor o wybodaeth am y Talebau Gigadid ar gael ar wefan Llywodraeth y DU: https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/

Dywed y Cyng Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hwn yn gyfle gwych i gartrefi a busnesau yn ardal Ceri gael mynediad at rwydwaith ffibr llawn cyflymach, sydd yn aml iawn ar gael yn unig mewn ardaloedd mwy trefol.

"Mae cymaint â 514 eiddo yn ardal Ceri'n gymwys, ond ni fydd Openreach yn gallu eu cysylltu oni fydd digon o bobl yn ymuno â'r cynllun ac ymrwymo eu talebau i'r cynllun."

Am ragor o wybdoaeth ar y prosiect hwn neu gyfleoedd band eang gwibgyswllt eraill ym Mhowys, anfonwch ebost at: broadband@powys.gov.uk