Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn

Image of Growing Mid Wales logo

29 Medi 2023

Image of Growing Mid Wales logo
Ar 18fed Medi, mewn cyfarfod partneriaeth rhanbarthol gyda'r nod o hyrwyddo a chynrychioli blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, trafodwyd y weledigaeth newydd ar gyfer twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru.

Adolygodd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru'r cerrig milltir allweddol hyd yma ac ystyriodd lle'r oedd angen addasu'r agwedd ranbarthol at ddatblygu economaidd ymhellach i adlewyrchu nifer o heriau.

Clywodd aelodau, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gynghorau Sir Powys a Cheredigion, yn ogystal â busnesau o'r sector preifat, arweinwyr rhanbarthol addysg uwch ac addysg bellach, a chynrychiolwyr Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, am yr heriau economaidd presennol sy'n wynebu pob rhanbarth, a chawsant ddiweddariadau ar gyflawni rhaglenni ariannu rhanbarthol allweddol megis Bargen Twf Canolbarth Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar gynlluniau i ddiweddaru strategaethau cyfredol er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn y sefyllfa orau i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Ym mis Mai 2020, nododd cynllun economaidd strategol, 'Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru', uchelgais ar y cyd a'r potensial economaidd ar gyfer Canolbarth Cymru. Ers hynny, mae digwyddiadau mawr fel Covid-19, a heriau fel yr argyfwng Costau Byw wedi achosi i gyd-destun economaidd y rhanbarth newid yn sylfaenol. Bydd diweddariad i ddogfen y Weledigaeth yn adlewyrchu'r rhain ac yn ystyried yr heriau mwy y maent yn eu hachosi wrth ddatblygu economi ranbarthol Canolbarth Cymru.

Fel cynrychiolwyr Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae llawer o gynnydd hyd yma gyda'r gwaith y mae'r Bartneriaeth wedi bod yn ymwneud ag ef ac mae'n dyst i'r gwaith ymgysylltu gwych a'r cydweithio rhwng partneriaethau ar draws sectorau sydd wedi bod yn digwydd ers 2015.

"Fe wnaethom ystyried etifeddiaeth cyllid yr UE a oedd yn cefnogi twf a swyddi i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghanolbarth Cymru. Gwnaethom hefyd edrych ar y presennol lle mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn symud gam yn nes at gael ei chyflawni. Hefyd, mae 81 o brosiectau yn y rhanbarth wedi cael cyllid wedi'i gymeradwyo hyd yn hyn, sef cyfanswm o £15 miliwn o ddyraniad y rhanbarth o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rydym yn gadarnhaol, er bod llawer o heriau, fod datblygiad economaidd y rhanbarth yn symud yn ei flaen."

"Er mwyn sicrhau bod y gwaith da yn parhau a bod y potensial ar gyfer newid trawsnewidiol yn economi Canolbarth Cymru yn cael ei wireddu, bydd angen buddsoddiad parhaus pellach dros y blynyddoedd i ddod."

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yw'r fforwm cynghori economaidd strategol ar draws sectorau ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru, sy'n cynnwys aelodau o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Cefnogwyd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn y digwyddiad gan Dîm Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth Cymru, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.

Dilynwch ddatblygiadau pellach Tyfu Canolbarth Cymru trwy gofrestru i gael eu cylchlythyr misol. E-bost: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu