Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynnal setholiad cyngor sir

Image of County Hall

2 Hydref 2023

Image of County Hall
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd is-etholiad cyngor sir yn cael ei gynnal ar gyfer ward Crughywel gyda Chwmdu a Thretŵr.

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal i lenwi dwy swydd wag yn dilyn ymddiswyddiad Matt Beecham a Sarah-Jane Beecham ym mis Medi.

Mae'r hysbysiad etholiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer yr isetholiad ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd hyd 4pm ddydd Gwener, 13 Hydref 2023 i gyflwyno ei bapur enwebu i'r Swyddog Canlyniadau.

Os bydd etholiad yn cael ei gynnal, bydd hynny'n digwydd ddydd Iau, 9 Tachwedd 2023.

Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio hyd ddydd Mawrth, 24 Hydref 2023 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. I gofrestru i bleidleisio ewch i www.gov.uk/registertovote.

Dylai etholwyr sylwi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 25 Hydref 2023.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 1 Tachwedd 2023. Gellir dod o hyd i wybodaeth am geisiadau trwy ddirprwy yn Etholiadau a phleidleisio