Rhan gyntaf cyllid y Fargen Twf ar ei ffordd i Ganolbarth Cymru
2 Hydref 2023
Derbyniwyd £4m o gyllid, gan alluogi'r Fargen Twf i symud ymlaen i'r cam cyflawni nesaf.
Disgwylir i'r Fargen Twf yng Nghanolbarth Cymru sicrhau buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol, megis:
- Twf mewn ffyniant rhanbarthol
- Creu swyddi o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad lafur leol
- Gweithlu mwy medrus yn y rhanbarth
- Gwelliannau mewn safonau byw ar draws y rhanbarth.
Ym mis Ionawr 2022, cytunwyd ar fuddsoddiad ar y cyd o £110m dros 10-15 mlynedd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyda'r disgwyl i drosoli buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach gyda buddsoddiad cyfun cyffredinol o £400m i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Ers hynny, mae'r rhaglenni a'r prosiectau sy'n ffurfio portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi bod yn gyrru eu hachosion busnes yn eu blaenau. Byddant yn cyfrannu tuag at gyflawni un o'r meysydd Blaenoriaeth Twf Strategol canlynol:
- Ymchwil Gymhwysol ac Arloesi
- Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod
- Cynnig Cryfach o ran Twristiaeth
- Digidol
- Cefnogi Menter
Bydd y dyraniad cyllid cyntaf hwn i'r rhanbarth yn galluogi Tyfu Canolbarth Cymru i roi cymorth ariannol i gynigion a rhaglenni prosiect y Fargen Twf pan fyddant yn barod i'w gael.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: "Mae hwn yn ddatblygiad gwych ac yn garreg filltir enfawr i Ganolbarth Cymru - mae gwybod bod yr arian wedi dod i'r rhanbarth o'r diwedd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n tirwedd economaidd yn rheswm i ddathlu. Mae'n atgyfnerthu ymddiriedaeth y Llywodraeth ynom i gyflawni o ran creu swyddi newydd, cynyddu cynhyrchiant, a denu cyllid i'r rhanbarth.
"Mae hyn hefyd yn atgyfnerthu ein perthynas â chynigion a rhaglenni prosiect y Fargen Twf a'n hymrwymiad i'w helpu i gyflawni eu hamcanion."
Yn tynnu sylw at y rhaglenni a'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi gan Fargen Twf Canolbarth Cymru mae'r fideo 'Mae Cyfleoedd yn Tyfu Yma' ar YouTube: https://youtu.be/tpzsNfYUliI
Mae cyfres o adolygiadau sicrwydd cynlluniedig wedi'u cynnal i sicrhau bod y portffolio o brosiectau a rhaglenni ar y trywydd iawn i fodloni amcanion allweddol. Mae tîm Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â noddwyr y prosiect i weld eu hachosion busnes yn symud yn eu blaenau fel eu bod gam yn nes at gael y cyllid."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Rwy'n falch iawn o weld cynnydd o ran cyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru gyda rhyddhau'r cyllid hwn. Mae potensial i'r fargen hon drawsnewid economi Canolbarth Cymru a bywydau llawer o bobl sy'n byw yno.
"Mae Llywodraeth y DU yn falch o weithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chynghorau Powys a Cheredigion. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig wrth yrru ffyniant a chreu swyddi a chyfleoedd newydd yn y rhanbarth."
Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i dyfu'r economi yng Nghanolbarth Cymru. Rhaid i gyllid y Llywodraeth ar gyfer y Fargen fod yn gatalydd ar gyfer ymgysylltu a buddsoddi ehangach gan randdeiliaid, gan gynnwys y sector preifat, er mwyn sicrhau newid trawsnewidiol i fusnesau a chymunedau lleol.
"Rwy'n awyddus bod ein partneriaid rhanbarthol nawr yn cynnal y cyflymder ac yn cyflwyno cynigion a all fynd i'r afael â heriau allweddol, gwneud y gorau o gryfderau Canolbarth Cymru a chyfrannu at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, tecach a gwyrddach".
I gael diweddariadau am Fargen Twf Canolbarth Cymru a newyddion ehangach Tyfu Canolbarth Cymru, gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru, drwy anfon e-bost at tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk.