Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i Ddefnyddio Eich Pwmp Ffynhonnell Aer

Gair i Gall

Gwnewch

  • Gweithredwch eich pwmp gwres ffynhonnell aer yn barhaol.
  • Gosodwch raglen tymheredd "set back" yn y nos neu pan fydd yr eiddo yn wag, yn hytrach na diffodd y gwres yn llwyr. Defnyddiwch rheolydd y VR700 i wneud hyn.

Peidiwch

  • Diffodd y pwmp gwres yn llwyr o'r cyflenwad trydan. (Os oes mesurydd trydan 'token' gennych, ceisiwch beidio â'i adael i redeg allan yn llwyr)
  • Addaswch y gosodiadau ar ryngwyneb pwmp gwres y gosodydd.
  • Gwaedwch eich rheiddiaduron oni bai eich bod chi'n ceisio cael cyngor y Gwasanaeth Tai.

Sut i ddefnyddio eich pwmp ffynhonnell aer

Mae pob pwmp gwres yn gweithredu mewn ffordd sy'n debyg i rewgell. Ond yn hytrach nag oeri, maen nhw'n gweithredu i'r gwrthwyneb ac yn cynhesu eich cartref yn lle hynny.

Fel oergell, mae pwmp gwres wedi cael ei ddylunio i weithredu'n barhaus ar bŵer isel i wresogi eich cartref yn araf.

Yn wahanol i foeler, mae pwmp gwres yn gweithredu ar dymheredd llawer oerach sy'n golygu y bydd tymheredd eich rheiddiaduron tua 45 gradd Celsius yn hytrach na 80 gradd Celsius arferol eich boeler.

Gan fod y tymheredd rhedeg yn is, mae'n angenrheidiol rhedeg eich pwmp gwres drwy'r amser yn hytrach na gosod YMLAEN/ DIFFODD, ar amserydd ar gyfer pan fyddwch yn dychwelyd adref, er enghraifft. Wrth redeg eich pwmp gwres yn barhaol, byddwch chi'n sicrhau ei fod yn gweithredu'n economaidd a bod tymheredd eich cartref yn gyfforddus yn barhaol.

Yn hytrach na diffodd eich pwmp gwres, rydym yn argymell eich bod yn rhaglennu tymheredd "set back" yn lle hynny. Caiff hyn ei wneud drwy ddefnyddio'r rheolydd VR700. Er enghraifft, pan fydd yr eiddo yn wag neu yn ystod y nos, gosodwch y tymheredd yn ôl fymryn, wrth 3 neu 4 gradd Celsius o'ch pwynt gosod cyfforddus arferol.  Felly, os fel arfer, ei fod yn ofynnol i'r ystafell fod ar 21 gradd Celsius, gosodwch e i 17/18 gradd Celsius yn y nos.

Gallech ddifrodi'r uned wrth ddiffodd cyflenwad trydan y pwmp gwres, a bydd hefyd yn costio mwy i ail-gynhesu eich cartref o'i dymheredd isaf.

Gwresogi eich dŵr poeth

Mae systemau pwmp gwres ffynhonnell aer yn gwresogi'r dŵr yn y silindr ar gyfer eich cyflenwad dŵr poeth. Mae angen amseru'r dŵr poeth ar gyfer hyn fel y byddech yn ei wneud gyda boeler a silindr confensiynol. 

Rydym ni'n argymell eich bod chi'n gwresogi eich dŵr poeth rhwng canol dydd a 2pm pan fydd y tymheredd tu allan ar ei gynhesaf. Ar yr adeg hon, gall eich pwmp gwres ffynhonnell aer echdynnu'r mwyaf o wres o'r aer. Gall gosod eich dŵr poeth pan fydd eich tariff trydan ar ei isaf drwy gydol y dydd neu'r nos hefyd fod yn amser da.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn cipio'r gwres o'r aer i gynhesu eich cartref yn fwy effeithlon na boeler neu unrhyw ffurf arall o wresogi na ellir ei adnewyddu. Drwy gydol blwyddyn arferol, mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn darparu mwy o ynni i chi wedi ei gipio o'r aer nag yr ydych yn talu amdano mewn gwirionedd.

Gwaedu eich rheiddiaduron

Mae systemau pwmp gwres ffynhonnell aer yn debyg iawn i wres canolog boeler ac weithiau mae'n ofynnol i aer o'r rheiddiaduron gael ei fentio. Wrth wneud hynny, gall hyn beri i bwysedd y system ddisgyn sy'n golygu efallai bydd eich pwmp gwres ffynhonnell aer yn stopio gweithio.

Os fydd hyn yn digwydd, gall "Pwysedd dŵr isel" gael ei arddangos ar sgrin eich rhaglennydd. Cysylltwch â'ch Gwasanaetha Tai ar 01597 827464 am gyngor i ddatrys hyn.

Mae rhai gosodiadau pwmp gwres ffynhonnell aer hefyd yn cynnwys glycol i atal pibellau a osodwyd i'r uned allanol rhag rhewi. Dim ond personél cymwys ddylai fentio rheiddiaduron sydd wedi eu ffitio at systemau glycol.