Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddiant Rhaglen Technoleg Gofal

Aberystwyth University

3 Hydref 2023

Aberystwyth University
Dewiswyd Cyngor Sir Powys a'i bartner, Prifysgol Aberystwyth fel un o 10 tîm sy'n cymryd rhan mewn rhaglen technoleg gofal arloesol newydd, gwerth £2 filiwn.

Dan reolaeth y Sefydliad Iechyd, mae'r rhaglen Technoleg ar gyfer Gwell Gofal yn cefnogi 10 tîm ar draws y DU i ddatblygu, profi a pheilota syniadau a dulliau gwaith newydd addawol o safbwynt iechyd dros gyfnod o ryw 18 mis.

Gofynnir i'r timau llwyddiannus ddatblygu dulliau gwaith mewn perthynas â gofal sy'n canolbwyntio ar gysylltiadau gofalgar sy'n galluogi sydd eu hangen rhwng y sawl sy'n darparu gofal a'r sawl sy'n ei dderbyn, er mwyn helpu lleihau'r pwysau ar system gofal y DU.

Trwy weithio gydag adrannau Seicoleg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, sy'n cynnwys y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, bydd prosiect Powys yn ystyried sut y gall technoleg ategu Gwasanaeth Cymorth Cartref y Cyngor i feithrin cylchoedd gofal ym Mhowys, a chynnig cymorth estynedig perthynol a rhagweithiol.

Bydd yn golygu adnabod neu greu synwyryddion y Rhyngrwyd Pethau sy'n darparu data arwyddocaol er mwyn hysbysu ac ategu gofal unigolyn, a datblygu cymhwysiad er mwyn cadw a phrosesu'r data.

Hefyd bydd y prosiect yn defnyddio cartref arloesol newydd sbon sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r byngalo, labordy cartref clyfar, sy'n llawn weithredol a chysylltiedig gyda chath gyda'r enw 'Picsel' yn gymar, yn cael ei ddatblygu er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu unigolion gyda chyflyrau iechyd.

Yno, bydd ymchwilwyr yn gallu profi technoleg cymorth byw, bydd Meddygon Teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn gallu cynnal gwiriadau o bell, ac ystyried sut y gall robotiaid a realiti estynedig gynorthwyo pobl o fewn y cartref.

Dywed y Cyng. Sian Cox, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar; "Rydym yn awyddus i bobl fod yn annibynnol, i'w rheoli eu hunain, i fyw bywydau cyflawn, yn rhan o'u cymuned, lle maen nhw'n perthyn. Mae hyn eisoes wrth galon popeth a wna Cymorth yn y Cartref; nid ydym yn trin pawb yn mewn dull unffurf, mae'r gofal wedi'i deilwra i gyd-fynd â'r unigolyn penodol.

"Nawr byddwn yn datblygu'r dull hwn ymhellach, gan greu 'Cylchoedd Gofal' o ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol - teulu, cyfeillion, cymdogion. Mae amrediad cynyddol o ffyrdd o arloesi'n dechnolegol yn ychwanegu at yr hyn y mae modd i Gylchoedd Gofal ei wneud. Weithiau, mae technoleg ei hun yn aelod o'r Cylch (gweler 'cathod robot')! 

"Rwy'n cefnogi systemau gofal cymunedol, penodol, ac mae'r fenter hon yn fy nghyffroi i'n fawr. Ry'n ni oll yn byw'n hirach, heb fod mewn iechyd da bob amser, ac mae ein poblogaeth sy'n gweithio yn crebachu. Mae hyn yn golygu pwysau dybryd ar ofal cymdeithasol, ac ar ofalwyr teulu dynodedig. Mae Cylchoedd Gofal yn rhan o'r ateb'

Yn ôl yr Athro Charles Musselwhite, Cyfarwyddwr Ymchwil Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia; "Mae angen gwirioneddol inni ddeall y ffyrdd gorau er mwyn gallu darparu cymorth i bobl hŷn fyw yn eu cartrefi mor bell ag sy'n bosibl, ond gall hyn fod yn heriol mewn ardaloedd gwledig.

"Mae'n annochel y bydd technoleg yn rhan o'r ateb, ond mae angen inni ddeall pa dechnoleg sydd ei hangen, sut y gellir ei defnyddio a'i hintegreiddio, ac yn bwysig iawn, yr hyn sy'n dderbyniol o safbwynt moesegol a foesol, i bobl mewn angen, eu teuluoedd, ac i'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.

"Trwy weithio gyda Chyngor Sir Powys a defnyddio 'cartref clyfar' arloesol Aberystwyth bydd y prosiect hwn yn ein helpu deall yr anghenion technolegol a chymdeithasol pwysig er mwyn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol."