Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Powys

Emma Palmer - Chief Executive

3 Hydref 2023

Emma Palmer - Chief Executive
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.

Penodwyd Emma Palmer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor ar hyn o bryd, yn Brif Weithredwr mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor Sir heddiw (dydd Mawrth).

Bydd hi'n cychwyn ei swydd newydd yn y dyfodol agos, gan olynu'r Prif Weithredwr Dros Dro, Jack Straw, a benodwyd ym mis Ebrill eleni.

"Hoffwn longyfarch Emma ar ei phenodiad llawn haeddiannol, a dymunaf yn dda iddi ar gyfer y dyfodol," meddai.

Mae gan Emma brofiad helaeth fel swyddog llywodraeth leol, ac mae hi wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ers dros 24 mlynedd. Ers chwe blynedd, mae Emma wedi cael swyddi gweithredol gyda Chyngor Sir Powys, gan gynnwys swyddi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth Trawsnewid a Chyfathrebu.

"Rwyf wrth fy modd i gael cynnig a derbyn swydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys. Cefais fy ngeni a'm magu yma ym Mhowys, a braint o'r mwyaf yw cael fy mhenodi i wasanaethu'r sir," meddai Emma.

Mae Emma'n byw gyda'i theulu tu allan i Aberhonddu, ac mae hi wedi byw ym Mhowys trwy gydol ei hoes.