Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Gweithdai Gloywi Theori Gyrru ar gyfer gyrwyr aeddfed

Image of a mature couple in a car

4 Hydref 2023

Image of a mature couple in a car
Bydd gweithdai gloywi theori gyrru ar gael i yrwyr aeddfed sy'n dymuno gwella eu gwybodaeth am y ffyrdd  ac adeiladu eu hyder wrth yrru ar ein ffyrdd cyfnewidiol y dyddiau hyn. 

Mae'r gweithdai ar-lein dwy awr o hyd, a drefnwyd gan Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Powys, ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw breswylydd sy'n byw ym Mhowys ac sy'n 65 oed neu'n hŷn.

Mae'r gweithdy anffurfiol yn ymdrin â phynciau  fel Y Pump Perygl Marwol, sut i yrru wrth ddod ar draws defnyddwyr ffyrdd bregus fel beicwyr modur a phedal, a marchogion, beth i'w wneud os ydych chi'n ymwneud â gwrthdrawiad, gofynion llygaid a meddyginiaeth a chyfreithiau alcohol, a'r newidiadau pwysig i Reolau'r Ffordd Fawr (Highway Code), a gyflwynwyd yn 2022.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd y mynychwyr hefyd yn cael gwybodaeth am gymryd rhan yn mewn asesiad Gyrru 'Mlaen, sef un awr gyda Hyfforddwr Gyrru Uwch lleol, am ddim.

Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae sicrhau bod ein ffyrdd a phobl Powys yn ddiogel yn hynod bwysig i ni. Byddwn i'n annog gyrwyr hŷn ledled Powys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn. Mae'r gweithdai rhad ac am ddim hyn mor bwysig oherwydd byddant yn ein hatgoffa o'r newidiadau diweddar i Reolau'r Ffordd Fawr, yn adnewyddu a diweddaru ein sgiliau gyrru hanfodol, ac yn y pen draw, gallent helpu i achub bywydau."

Bydd Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal ei gweithdy Gloywi Theori Gyrwyr ar y dyddiau canlynol:

Dydd Mercher 25 Hydref 2023
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2023

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle y cyrsiau rydym yn eu trefnu, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd ar:

Ffon: 01597 82 6924
E-bost: miranda.capecchi1@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu