Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Weithredwr newydd

Emma Palmer, Jack Straw, Chair and Leader

6 Hydref 2023

Emma Palmer, Jack Straw, Chair and Leader
Mae'r cyngor sir wedi cadarnhau y bydd Emma Palmer, Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Powys yn dechrau yn ei rôl newydd yn hwyrach y mis hwn. 

Bydd Emma, a chafodd ei chroesawu i'r cyngor gan yr Arweinydd y Cynghorydd James Gibson-Watt a'r Cadeirydd y Cynghorydd Beverly Baynham mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ddoe (dydd Iau).  Bydd Emma'n dechrau ei rôl ddydd Llun 23 Hydref.

Yn uwch swyddog llywodraeth leol brofiadol, mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am dros 24 mlynedd.

Am y chwe blynedd diwethaf mae Emma wedi gweithio mewn swyddi gweithredol yng Nghyngor Sir Powys gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth Trawsnewid a Chyfathrebu.

Bydd hi'n olynu Jack Straw sydd wedi bod yn Brif Weithredwr Dros Dro y cyngor ers mis Ebrill.

 

Pennawd y llun: Dyma Emma Palmer yn cael ei chroesawu i'r swydd gan Brif Weithredwr Dros Dro, Jack Straw. Hefyd yn y llun (Chwith i'r Dde), Cyngh. Beverley Baynham a'r Cyngh. James Gibson-Watt.