Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Ysgol Neuadd Brynllywarch

Image of Brynllywarch Hall School

6 Hydref 2023

Image of Brynllywarch Hall School
Bydd proses tendro newydd i adeiladu cyfleuster newydd ar gyfer ysgol arbennig yng ngogledd Powys yn cael ei gynnal, yn ôl y cyngor sir.

Bydd Cyngor Sir Powys yn chwilio am gontractwyr newydd i adeiladu'r cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch, tu allan i bentref Ceri, ger Y Drenewydd.

Ym mis Mai 2022, comisiynwyd cwmni ISG Construction Ltd gan y cyngor i gwblhau'r cam dylunio ar gyfer ysgol newydd, gyda lle ar gyfer 64 o ddisgyblion, yn dilyn proses tendro cystadleuol, oedd yn cynnwys opsiwn i'r cwmni gyflawni cam adeiladu'r prosiect.

Mae ISG Construction Ltd wedi cwblhau'r gwaith dylunio ar gyfer yr adeilad newydd, ac mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno.

Yn sgil cwblhau'r cam dylunio, mae'r cyngor wedi cynnal adolygiad o'r prosiect ac wedi penderfynu peidio symud ymlaen i'r cyfnod adeiladu nes cynhelir ymarfer pellach i brofi'r farchnad.

Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch oherwydd nid yw'r adeilad presennol bellach yn cynnig amgylchfyd addas o safbwynt gofynion dysgu a chymorth i ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol sylweddol.

"Mae'n bwysig i'r cyngor adolygu ei brosiectau adeiladu wrth iddynt ddatblygu.  Ar gyfer y prosiect hwn, rydym wedi penderfynu cynnal ymarfer pellach i brofi'r farchnad ar gyfer yr elfen adeiladu.

"Dymunwn ddiolch i ISG Construction Ltd am eu cyfraniad i'r prosiect pwysig hwn.

"Byddwn yn cychwyn proses tendro cystadleuol i benodi contractwr i adeiladu'r ysgol newydd hon ar y cyfle cynharaf posibl, er mwyn gallu darparu amgylchfyd lle gall staff dysgu ffynnu a darparu'r cyfleusterau ar gyfer disgyblion sy'n galluogi diwallu eu hanghenion, gan roi profiad addysgol mwy pleserus a boddhaol iddyn nhw."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu