Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Twf Busnes Powys

Grant Twf Busnes Powys

Rhagymadrodd

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Powys yn darparu Grant Twf Busnes Powys a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae grantiau ar gael rhwng £5,000 a £25,000.

Y cynnig grant yw:

  • Buddsoddiad cyfalaf i gefnogi prynu cyfarpar sy'n hybu cynhyrchiant neu alluogi creu cynnyrch neu wasanaethau newydd.
  • Buddsoddiad cyfalaf i helpu busnesau mabwysiadu technolegau gwyrddach, megis gosod goleuadau neu systemau gwresogi newydd gyda dewisiadau mwy cynaliadwy.

Nod y grant cyfalaf hwn yw cryfhau ecosystemau busnesau lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i'w cynnal, eu tyfu, a newid, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.

Bydd yn anelu at helpu mentrau lleol a buddsoddwyr mewnol i wella cynhyrchiant, datblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd ac adeiladu cynaliadwyedd tymor hir.

Nodwch fod hon yn broses ymgeisio dau gam gyda therfynau amser pwysig.

  • Datganiad o Ddiddordeb - erbyn hanner nos ar 15 Medi.  (Os yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gwblhau'r ail gam - y Cais Llawn).
  • Y Cais Llawn - erbyn hanner nos ar 3 Hydref.

 

Faint o gyllid sydd ar gael

Faint o gyllid sydd ar gael?

Mae grantiau ar gael rhwng £5,000 a £25,000. Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys.

Rhaid i unrhyw arian cyfatebol fod yn arian parod (yn hytrach na chyfraniadau o fath arall) ac o ffynonellau'r sector preifat.

Bydd y grant yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Lle mae cais yn cael ei gymeradwyo rhaid i'r busnes ariannu 100% o'r gwariant cyn derbyn y grant fel ad-daliad.

Mae gwneud cais yn broses cystadleuol, a bydd gwerth am arian/effaith yn ffactor allweddol pan fydd prosiectau'n cael eu gwerthuso a'u dethol.

 

 

Cymhwysedd (pwy sy'n gallu ymgeisio)

Mae'r Grant yn agored i Micro fusnesau a Mentrau Bach-Canolig.  Mae'r grant ar gael ar gyfer busnesau sy'n bodoli eisoes sydd wedi bod mewn busnes am chwe mis neu fwy o fewn y sectorau cymwys sydd ym Mhowys neu sy'n bwriadu lleoli ym Mhowys yn unig. 

Os ydych chi'n gwneud cais am fuddsoddiad cyfalaf i helpu i fabwysiadu technolegau mwy gwyrdd, rhaid bod asesiad/archwiliad ynni neu gynllun lleihau carbon wedi'i gwblhau ar gyfer y busnes o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd angen copi o hyn gyda'r cais llawn.

Sector Cymwys:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Manwerthu
  • Gofal

Fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad posibl a'u gwerth i'r economi leol

Nid yw'rsectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth:

  • cynhyrchiant amaethyddiaeth yn bennaf
  • coedwigaeth
  • dyframaethu
  • Gwasanaethau statudol ee iechyd sylfaenol ac addysg

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo hynny'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio. Diffinnir twf busnes fel busnes sy'n ceisio cynyddu trosiant, creu swyddi neu ddiogelu staff a allai fod mewn perygl. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fusnesau sydd newydd gychwyn a busnesau sydd â'r uchelgais a'r nodwedd i ehangu.

Rhaid i'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant gael ei gyflawni a'i dalu erbyn 18 Ionawr 2026. Ni roddir unrhyw estyniadau. Rhaid creu'r busnes arfaethedig a swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant .  Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i fonitro a chadw tystiolaeth ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn cais am grant.

Cynghorir yn gryf bod ymgeiswyr yn cael cymorth busnes, ac yn llenwi'r ffurflen gais mewn ymgynghoriad â naill ai un o'r darparwyr cymorth busnes a restrir isod, neu gydag ymgynghorydd cydnabyddedig arall:

 

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio'r grant

Bydd y grant yn berthnasol i wariant cyfalaf o fewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

Gwariant cyfalaf:

  • Prynu offer newydd neu ail law, ee offer, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai offer gynnwys eitemau fel tryciau efo fforch godi, telehandlers, peiriannau cloddio, ac ati. Nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys.** gweler y nodyn isod ynglŷn â phrynu eitemau ail law
  • Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e., llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
  • Prynu offer ynni-effeithlon ee goleuadau LED, paneli ffotofoltäig solar, system storio drwy fatris, pympiau gwres ffynhonnell aer ac ati.

Offer ail law

Mae costau prynu offer ail law yn gymwys ar gyfer grant o dan yr amodau a ganlyn: -

  • Rhaid i werthwr yr offer ddarparu datganiad yn nodi ei darddiad, a chadarnhau na chafodd ei brynu ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda chymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd;
  • Ni fydd pris yr offer yn fwy na'i werth ar y farchnad a bydd yn llai na chost offer newydd tebyg, a
  • Rhaid i'r offer feddu ar y nodweddion technegol sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithrediad a chydymffurfio â normau a safonau cymwys, ee Iechyd a Diogelwch

 

Ar gyfer beth na allwch ddefnyddio'r grant

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

  • Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,
  • Gwella'r eiddo / mân waith adeiladu
  • Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno,
  • Gosodion a ffitiadau newydd, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati.
  • Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn y cynnig a derbyn y grant.
  • Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau
  • Seilwaith gwefru cerbydau trydan
  • Costau cyfalaf gweithio fel stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.
  • Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu
  • Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW.
  • Ni ddylid mynd i unrhyw wariant cyn cymeradwyo'r grant gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol.
  • Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
  • Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd /prydlesi cyllid estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
  • Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes / ysgrifennu BID ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau

Proses Ymgeisio

I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Yna bydd y datganiad o ddiddordeb yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.

Yna bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:

  • Ffurflen Gais wedi'i chwblhau,
  • Cyfrifon hanesyddol 2 flynedd lawn o leiaf a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os nad yw busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio.
  • Rhagolygon 2 flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
  • Dyfynbrisiau Ysgrifenedig
  • Safonau'r Gymraeg - gweler y canllawiau pellach yn adran 9
  • Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni cyllido.

Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac i ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru

Dylid nodi bod Grant Cyfalaf Busnes Powys yn grant yn ôl disgresiwn ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys. Bydd pob cais yn cael ei asesu i ystyried ceisiadau yn bodloni'r safon erbyn y dyddiad cau penodol.

 

 

Asesu

Bydd pob cais wedi'i gwblhau yn cael ei ystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd cyfanswm y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y.

  • cymhareb gwerth am arian / grant ar gyfer pob swydd a grëwyd a buddsoddiad sector preifat a ysgogwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau sefydlu a thwf cynaliadwy.
  • Swyddi wedi'u creu
  • Swyddi wedi'u diogelu
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd i'r cwmni
  • Nifer y busnesau sydd â chynhyrchiant gwell
  • Nifer y seilwaith ynni carbon isel neu ddi-garbon a osodwyd
  • Faint o garbon deuocsid neu ostyngiadau cyfatebol

Gofynion Tystiolaeth Allbwn a Chanlyniadau

Ar ddiwedd cyfnod y grant, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r allbynnau a'r canlyniadau a amlinellir yn eich cais:

  • Swydd wedi'i Chreu - Contract neu lythyr gan y cyfarwyddwr yn nodi bod swydd newydd wedi'i chreu am gyfnod o flwyddyn neu fwy o ganlyniad i'r cyllid grant. Rhaid i hyn gynnwys yr oriau a gontractir yr wythnos.
  • Swyddi wedi'u Diogelu- Llythyr gan y cyfarwyddwr yn nodi y rhagwelwyd y byddai'r swydd yn cael ei cholli o fewn 6 mis o'r cais. Rhaid i hyn gynnwys yr oriau a gontractir yr wythnos.
  • Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well - Datganiad wedi'i lofnodi yn cadarnhau'r cynnyrch neu'r gwasanaeth newydd y dywedasoch y byddech yn eu cyflawni yn eich cais.
  • Nifer y mentrau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd - Datganiad wedi'i lofnodi yn cadarnhau'r technolegau neu brosesau newydd y dywedasoch y byddech yn eu cyflawni yn eich cais.
  • Nifer y mentrau sydd â chynhyrchiant gwell - Datganiad wedi'i lofnodi yn nodi bod cyllid Grant Cyfalaf Busnes Powys wedi gwella eich cynhyrchiant.
  • Nifer y seilwaith ynni carbon isel neu sero a osodwyd - Datganiad wedi'i lofnodi sy'n nodi nifer y seilwaith ynni carbon isel neu sero a osodwyd a thystiolaeth ffotograffig.
  • Maint y carbon deuocsid neu ostyngiadau cyfatebol - Datganiad wedi'i lofnodi o'r gostyngiadau cyfwerth o garbon deuocsid amcangyfrifedig (dros flwyddyn galendr) ar ôl y gosodiad a nodir yn eich cais.

 

 

Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau

Prynu nwyddau, gwasanaethau neu waith

Wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses mewn modd sy'n sicrhau didwylledd, gwerth am arian a thegwch a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y'u hamlinellir yn yr adran hon.

Meddyliwch Powys yn Gyntaf

Rydym yn eich annog i archwilio'r farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau ym Mhowys sy'n gallu darparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i roi dyfynbris.  Mae gan Gyngor Sir Powys a busnesau sy'n gweithredu o fewn y Sir ran fawr i'w chwarae yn adferiad economaidd Powys ac mae datblygu cyflenwad lleol yn hanfodol.

Trothwyon Caffael

Bydd yr union weithdrefnau i'w dilyn yn dibynnu ar faint yr archeb neu'r contract i'w osod. Mae Cyngor Sir Powys (CSP) yn gweithredu cyfres raddedig o weithdrefnau sy'n cydnabod yr angen i ysgafnhau gofynion gweinyddol ar gyfer contractau sy'n cynnwys symiau llai.

Hyd at £5,000 - mae angen dangos bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni gan ddilyn yr egwyddorion a gynhwysir yn y rheolau gweithdrefnau hyn ac yn y ddogfen Canllawiau i Swyddogion.

Rhwng £5,000 a £49,999 - dylid dilyn ysbryd y rheolau gweithdrefnau hyn a lle bynnag y bo'n ymarferol, rhaid cael o leiaf 3 dyfynbris cystadleuol ysgrifenedig gan gwmnïau, sydd, yn ddelfrydol, wedi'u cofrestru ar wefan gaffael genedlaethol (GwerthuiGymru ar hyn o bryd). Fel arall, gellir hysbysebu'r gofyniad yn agored ar wefan gaffael genedlaethol (GwerthuiGymru ar hyn o bryd). Rhaid cadw dyfynbrisiau o'r fath am gyfnod o ddim llai na dwy flynedd o ddyddiad dyfarnu'r Contract.

£50,000 neu uwch, rhaid ei dendro a'i hysbysebu ar wefan gaffael genedlaethol (GwerthuiGymru ar hyn o bryd). Pan ei fod wedi mynd y tu hwnt i drothwy'r Undeb Ewropeaidd rhaid i'r caffael gael ei dendro a'i hysbysebu yng nghyfnodolyn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Cyfarwyddwr Strategol / Cyfarwyddwr / Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn sicrhau bod ymgynghori â'r tîm Gwasanaethau Masnachol cyn i'r hysbyseb gael ei osod.

Pan fydd y weithdrefn ddeialog gystadleuol yn cael ei mabwysiadu, rhaid gwahodd o leiaf dri tendr.

 

Safonau'r Gymraeg

Mae Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau'r Gymraeg yn gosod gofyniad statudol ar Gyngor Sir Powys i sicrhau bod pob grant y mae'n ei ddyfarnu yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg, ac nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr nodi eu hymrwymiadau i'r Gymraeg yn eu hateb i'r cwestiynau ar y ffurflen gais ac, unwaith y cytunir arnynt gyda'r swyddog grant, byddant yn cael eu cynnwys fel telerau ac amodau ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Rheoli Cymhorthdal

Mae'r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal gyfredol Llywodraeth y DU (2022). Ni ddylai cyfanswm yr Isafswm Cymorth Ariannol (MFA) a dderbynnir dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 ar gyfer pob busnes*. Os ydych wedi derbyn unrhyw gymorth ariannol arall yn y 3 blynedd ariannol ddiwethaf disgrifiwch y cymorth yn y blwch isod. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel yr MFA a dderbynnir; gofynnir i chi ddatgan nad aethpwyd y tu hwnt i hyn pe bai cynnig yn cael ei wneud. [* Mae trothwy ariannol yr MFA yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.]

Rhaid i bob cais hefyd ystyried sut y bydd yn cyflawni yn ôl rheolaeth cymhorthdal yn unol â Llywodraeth y DU

https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime

Lle nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â Chyfundrefn Rheoli Cymhorthdal y DU, mae'n bosibl y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.

Ar ôl cwblhau - Telerau ac Amodau

Dylid nodi mai grant dewisol yw Cronfa Cyfalaf Busnes Powys ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys.

Gellir tynnu'r grant yn ôl pe bai'r busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu, yn adleoli neu'n gwerthu'r eitemau a brynwyd fel rhan o'r grant o fewn 5 mlynedd i'w dyfarnu.

Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Anogir Unig Fasnachwyr a phartneriaethau bod yr holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio cyfrif banc y busnes.

Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, felly mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr y modd i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid gofyn i'r tîm grant am unrhyw wyriadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant cyn prynu. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant i gefnogi'r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad safle.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth a Thelerau ac Amodau o fewn 10 diwrnod o'i dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant erbyn 18 Ionawr 2026. Ni roddir estyniad ar gyfer cyflwyno'r hawliad

Rhaid cyflawni / cynnal y swydd(i) sydd wedi'u creu a/neu eu diogelu sy'n gysylltiedig â'r prosiectau o fewn 6 mis i'r taliad terfynol. Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd a/neu a ddiogelir yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.

I bob pwrpas grant, bydd yr hawliad a thystiolaeth yn cael ei fonitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau a nodir yn y Llythyr Cymeradwyo a chytuno arno

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. 

Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. ** Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(wyr).

Ni fydd grantiau'n cael eu cynnig na'u talu os yw'r busnes neu'r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan sy'n gweithredu'r cynllun.

 

Adfachu Arian Grant

Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i'r graddau y mae taliad wedi'i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys os:

  1. bu gordaliad cyllid;
  2. yn ystod ei fywyd economaidd, bod y prosiect yn mynd trwy newid sylweddol a ddiffinnir fel un sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw'r rhai a nodir yn y cais, neu, yn cael perchennog newydd heb hysbysu Cyngor Sir Powys.

Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant a bydd angen ad-dalu'r cyllid fel a ganlyn:

O fewn 1 flwyddyn     Cyllid i'w ad-dalu'n llawn

O fewn 2 flynedd        80% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 3 blynedd       60% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 4 blynedd       40% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 5 mlynedd      20% o'r cyllid i'w ad-dalu

Ar ôl 5 mlynedd          Dim cyllid i'w ad-dalu

Y gofynion uchod yw'r gofynion ad-dalu lleiaf

Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, yna mae gan y Cyngor Sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.

Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn pan ofynnir am hynny os: -

  • canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gamliwio mewn cysylltiad â'r cais.
  • yw'r ymgeisydd wedi torri'r amod uchod.
  • nad yw'r asedau a'r eiddo (os yn berthnasol) yn cael eu hadfer yn llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golled neu ddifrod i'r eiddo.

Sut i wneud cais

Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb sy'n amlinellu eich cynnig busnes a'ch costau.

Datganiad o Ddiddordeb - erbyn hanner nos ar 15 Medi.                                                           

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion
  • Manylion y busnes a disgrifiad o'i brif weithgaredd
  • Costau prosiect dangosol
  • Manylion unrhyw arian/cyllid ychwanegol

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen yn y ddolen isod.

Ffurflen Mynegi Diddordeb Grant Cyfalaf Busnes Ffurflen Mynegi Diddordeb

Angen Help?

Cysylltwch â'n tîm Datblygu Economaidd yn economicdevelopment@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu