Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Twf Busnes

Rhagymadrodd

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a Mewnfuddsoddwyr i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Bydd hyn yn arwain at greu neu ddiogelu swyddi ledled y Sir, gan wella'r economi leol. Er y rhoddir blaenoriaeth i greu swyddi newydd, cydnabyddir bod diogelu swyddi o dan yr hinsawdd economaidd bresennol hefyd yn hynod o bwysig a chaiff ei ystyried yn unol â hynny fesul achos.

Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cymorth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau cynnal parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu a/neu eu diogelu oherwydd y cymorth ariannol.

Mae manylion y canllawiau ymgeisio ar ffurf drafft a gallant newid

Sut i wneud cais

Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb sy'n amlinellu eich cynnig busnes a'ch costau. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion
  • Manylion y busnes a disgrifiad o'i brif weithgaredd
  • Costau prosiect dangosol
     
  • Manylion unrhyw arian/cyllid ychwanegol

Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen yn y ddolen isod

Ffurflen Mynegi Diddordeb Grant Twf Busnes Powys Ffurflen Mynegi Diddordeb

Y Cynnig

  • Grantiau rhwng £1,000 a £25,000 ar gael.
  • Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys neu uchafswm o £5000 ar gyfer pob swydd *sy'n cael ei chreu a/neu £5000 y swydd *sy'n cael ei diogelu, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael mynediad at y grant)
  • Bydd unrhyw swyddi sy'n cael eu hawlio fel rhai a ddiogelir yn rhai a ragfynegir fyddai'n cael eu colli o fewn 6 mis i wneud y cais. Bydd angen rhoi tystiolaeth fanwl o hyn yn y cais
  • Ystyrir dwy swydd ran amser fel un cyfwerth ag amser llawn. Os ydych yn creu neu'n diogelu swydd ran amser yn unig (Isafswm o 16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y telir y grant hy, uchafswm o £2500 ar gyfer swydd ran amser.
  • Rhaid hawlio pob swydd a grëir fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf
  • Rydym yn annog bod pob swydd sy'n cael ei chreu gyda chymorth y grant yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol. https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage
  • Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall megis grantiau Canol Tref, ni ellir dyblygu'r gwariant a'r allbynnau
  • Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid bod gan ymgeiswyr y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys yn dilyn y broses hawlio (gweler y telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
  • Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i dderbyn y llythyr cynnig neu erbyn 30 Medi 2024, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. I gefnogi'r llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond rhaid gofyn i'r Cyngor gytuno hyn ymlaen llaw.

Cymhwysedd

Mae Grant Twf Busnes Powys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Powys ac o'r herwydd mae ar gael ar gyfer busnesau newydd neu bresennol o fewn y sectorau cymwys sydd ym Mhowys neu sy'n bwriadu lleoli ym Mhowys yn unig. 

Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau presennol sy'n gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen a ganlyn neu'n eu gwasanaethu:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol
  • Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Manwerthu
  • Gofal

Fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad posibl a'u gwerth i'r economi leol

Nid yw'rsectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth: - cynhyrchu amaethyddiaeth sylfaenol, coedwigaeth, dyframaethu, pysgota a gwasanaethau statudol ee iechyd ac addysg sylfaenol

Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau o bob maint sydd â'r nod o weithredu eu cynlluniau twf ac adfer a rhaid iddynt arwain at greu a/neu ddiogelu swyddi. Rhaid i ymgeiswyr felly ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio.

Rhaid prynu a hawlio'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis o ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu yn ddim hwyrach na 30 Medi 2024, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni roddir estyniadau i geisiadau gael eu cyflwyno. Rhaid creu'r busnes arfaethedig a swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag yw'r cynharaf. Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i fonitro a chadw tystiolaeth ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn cais am grant.

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio'r grant

Bydd y grant yn berthnasol i wariant cyfalaf a/neu refeniw o fewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

Gwariant cyfalaf:

  • Prynu offer newydd neu ail law, ee offer, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai offer gynnwys eitemau fel tryciau efo fforch godi, telehandlers, peiriannau cloddio, ac ati. Nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys.** gweler y nodyn isod ynglŷn â phrynu eitemau ail law
  • Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e., llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
  • Caledwedd TG a Thelathrebu os yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect

Gwariant refeniw arbenigol:

  • Hyfforddiant arbenigol / technegol (ddim o reidrwydd wedi'i achredu)
  • Comisiynu / Gosod Peiriannau
  • Meddalwedd arbenigol
  • Cynhyrchu gwefannau, e-fasnach/ siopau ar-lein, apiau, ac ati.
  • Rhaid cynhyrchu gwefannau a datblygiadau e-fasnach sy'n gysylltiedig â'r grant yn ddwyieithog
  • Deunyddiau Hyrwyddo a Marchnata fel rhan o gynllun marchnata llawn (a asesir fesul achos)
  • Rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog
  • Ymgynghorwyr Arbenigol (a asesir fesul achos)
  • Tystysgrif Sicrwydd Ansawdd (a asesir fesul achos)
  • Taliadau sy'n gysylltiedig â danfon unrhyw offer cyfalaf

Ar gyfer beth na allwch ddefnyddio'r grant

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

  • Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,
  • Gwella'r eiddo / mân waith adeiladu
  • Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno,
  • Gosodion a ffitiadau newydd, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati.
  • Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn y cynnig a derbyn y grant.
  • Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau
  • Costau cyfalaf gweithio fel stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.
  • Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu
  • Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW.
  • Ni ddylid mynd i unrhyw wariant cyn cymeradwyo'r grant gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol.
  • Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
  • Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd /prydlesi cyllid estynedig yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
  • Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes / ysgrifennu BID ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau

Offer ail law

Mae costau prynu offer ail law yn gymwys ar gyfer grant o dan yr amodau a ganlyn: -

  • Rhaid i werthwr yr offer ddarparu datganiad yn nodi ei darddiad, a chadarnhau na chafodd ei brynu ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda chymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd;
  • Ni fydd pris yr offer yn fwy na'i werth ar y farchnad a bydd yn llai na chost offer newydd tebyg, a
  • Rhaid i'r offer feddu ar y nodweddion technegol sy'n angenrheidiol ar gyfer y gweithrediad a chydymffurfio â normau a safonau cymwys, ee Iechyd a Diogelwch

Cais ac Asesiad

Bydd pob cais wedi'i gwblhau yn cael ei ystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd cyfanswm y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y.

  • cymhareb gwerth am arian / grant ar gyfer pob swydd a grëwyd a buddsoddiad sector preifat a ysgogwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau sefydlu a thwf cynaliadwy.
  • Swyddi wedi'u creu
  • Swyddi wedi'u diogelu
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well
  • Nifer y busnesau sy'n ymwneud â marchnadoedd newydd
  • Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd i'r cwmni
  • Nifer y busnesau sydd â chynhyrchiant gwell
  • Nifer y busnesau ymchwil a datblygu gweithredol
  • Cynnydd yn nifer y BBaChau sy'n weithredol o ran arloesi
  • Nifer y cynhyrchion newydd i'r farchnad

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy drwy ei raglenni ariannu. Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. https://businesswales.gov.wales/green-growth-pledge-0

I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Yna bydd y datganiad o ddiddordeb yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.

Yna bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:

  • Ffurflen Gais wedi'i chwblhau,
  • Cyfrifon hanesyddol 2 flynedd lawn o leiaf a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os nad yw busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio.
  • Rhagolygon 2 flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
  • Dyfynbrisiau Ysgrifenedig (gweler isod am arweiniad)
  • Safonau'r Gymraeg 
  • Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Dylid nodi bod Twf Busnes Powys yn grant dewisol ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried bod ceisiadau yn cyrraedd y safon erbyn y dyddiad cau penodol.

Noder - Bydd angen gallu bwrw ymlaen â cheisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis arian cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo'n berthnasol), ac ati cyn i'r tîm grant baratoi'r cais i'w ystyried gan y panel.

Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau

Prynu nwyddau, gwasanaethau neu waith

Wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses mewn modd sy'n sicrhau didwylledd, gwerth am arian a thegwch a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y'u hamlinellir yn yr adran hon.

Meddyliwch Powys yn Gyntaf

Rydym yn eich annog i archwilio'r farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau ym Mhowys sy'n gallu darparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i roi dyfynbris.  Mae gan Gyngor Sir Powys a busnesau sy'n gweithredu o fewn y Sir ran fawr i'w chwarae yn adferiad economaidd Powys ac mae datblygu cyflenwad lleol yn hanfodol.

Trothwyon Caffael

Bydd yr union weithdrefnau i'w dilyn yn dibynnu ar faint yr archeb neu'r contract i'w osod. Mae Cyngor Sir Powys (CSP) yn gweithredu cyfres raddedig o weithdrefnau sy'n cydnabod yr angen i ysgafnhau gofynion gweinyddol ar gyfer contractau sy'n cynnwys symiau llai.

Safonau'r Gymraeg

Mae Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau'r Gymraeg yn gosod gofyniad statudol ar Gyngor Sir Powys i sicrhau bod pob grant y mae'n ei ddyfarnu yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg, ac nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr nodi eu hymrwymiadau i'r Gymraeg yn eu hateb i'r cwestiynau ar y ffurflen gais ac, unwaith y cytunir arnynt gyda'r swyddog grant, byddant yn cael eu cynnwys fel telerau ac amodau ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Rheoli Cymhorthdal

Mae'r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal gyfredol Llywodraeth y DU (2022).

Ni ddylai cyfanswm yr Isafswm Cymorth Ariannol (MFA) a dderbynnir dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 ar gyfer pob busnes*. Os ydych wedi derbyn unrhyw gymorth ariannol arall yn y 3 blynedd ariannol ddiwethaf disgrifiwch y cymorth yn y blwch isod. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel yr MFA a dderbynnir; gofynnir i chi ddatgan nad aethpwyd y tu hwnt i hyn pe bai cynnig yn cael ei wneud. [* Mae trothwy ariannol yr MFA yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.]

Rhaid i bob cais hefyd ystyried sut y bydd yn cyflawni yn ôl rheolaeth cymhorthdal yn unol â Llywodraeth y DU

https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime

Lle nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â Chyfundrefn Rheoli Cymhorthdal y DU, mae'n bosibl y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.

Ar ôl cwblhau - Telerau ac Amodau

Dylid nodi bod Cronfa Twf Busnes Powys yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys.

Gellir tynnu'r grant yn ôl pe bai'r busnes yn rhoi'r gorau i fasnachu, yn adleoli neu'n gwerthu'r eitemau a brynwyd fel rhan o'r grant o fewn 5 mlynedd i'w dyfarnu.

Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Anogir Unig Fasnachwyr a phartneriaethau bod yr holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio cyfrif banc y busnes.

Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, felly mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr y modd i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid gofyn i'r tîm grant am unrhyw wyriadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant cyn prynu. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant i gefnogi'r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad safle.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth a Thelerau ac Amodau o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis o ddyddiad y llythyr cymeradwyo neu 30 Medi 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Ni roddir estyniad ar gyfer cyflwyno'r hawliad

Rhaid cyflawni / cynnal y swydd(i) sydd wedi'u creu a/neu eu diogelu sy'n gysylltiedig â'r prosiectau o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant neu fis Mawrth 2025 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd a/neu a ddiogelir yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.

I bob pwrpas grant, bydd yr hawliad a thystiolaeth yn cael ei fonitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau a nodir yn y Llythyr Cymeradwyo a chytuno arno

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. 

Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. ** Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(wyr).

Ni fydd grantiau'n cael eu cynnig na'u talu os yw'r busnes neu'r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan sy'n gweithredu'r cynllun.

Adfachu Arian Grant

Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i'r graddau y mae taliad wedi'i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys os:

  1. a) bu gordaliad cyllid;
  2. b) yn ystod ei fywyd economaidd, bod y prosiect yn mynd trwy newid sylweddol a ddiffinnir fel un sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw'r rhai a nodir yn y cais, neu, yn cael perchennog newydd heb hysbysu Cyngor Sir Powys.

Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant a bydd angen ad-dalu'r cyllid fel a ganlyn:

O fewn 1 flwyddyn        Cyllid i'w ad-dalu'n llawn

O fewn 2 flynedd        80% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 3 blynedd        60% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 4 blynedd        40% o'r cyllid i'w ad-dalu

O fewn 5 mlynedd        20% o'r cyllid i'w ad-dalu

Ar ôl 5 mlynedd        Dim cyllid i'w ad-dalu

Y gofynion uchod yw'r gofynion ad-dalu lleiaf

Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, yna mae gan y Cyngor Sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.

Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn pan ofynnir am hynny os: -

  • canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gamliwio mewn cysylltiad â'r cais.
  • yw'r ymgeisydd wedi torri'r amod uchod.
  • nad yw'r asedau a'r eiddo (os yn berthnasol) yn cael eu hadfer yn llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golled neu ddifrod i'r eiddo.