Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweinidogion Cymru i benderfynu ar gais cynllunio fferm wynt

Image of a wind turbine

12 October 2023

Image of a wind turbine
Mae wedi cael ei gyhoeddi y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar gais cynllunio ar gyfer datblygiad fferm wynt yng ngogledd Powys.

Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn hysbysiad bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud y penderfyniad i alw i mewn y cais cynllunio ar gyfer y fferm wynt arfaethedig ar dir yn Esgair Cwmowen ger Carno er mwyn penderfynu ar y cais eu hunain.

Mae'r cais am y datblygiad arfaethedig, a gafodd ei gyflwyno i'r cyngor yn 2010, yn cynnwys 11 tyrbin gwynt (capasiti ar ôl eu gosod hyd at 37.95 MW), mast anemomedr, is-orsaf ac adeilad rheoli, mynedfa i'r safle, traciau mynediad newydd ac wedi'u gwella a'r holl waith adeiladu a pheirianneg a thirlunion cysylltiedig ynghyd â gwelliannau i'r briffordd.

Gwnaed y penderfyniad i alw i mewn a phenderfynu ar y cais gan Weinidogion Cymru oherwydd ystyriwyd bod y cais yn codi materion sy'n fwy na phwysigrwydd lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Cyflwynwyd y cais cynllunio hwn i'r cyngor yn 2010, cyn i'r broses ymgeisio Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gael ei sefydlu yn 2016.

"Mae'r datblygiad arfaethedig ar gyfer fferm wynt ar y tir gyda dros 10MW o gapasiti cynhyrchu ar ôl ei sefydlu, sy'n bodloni'r meini prawf penodedig yn y broses ymgeisio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

"Pe bai'r cais wedi'i gyflwyno ar ôl 2016, byddai wedi cael ei gyflwyno'n awtomatig i Weinidogion Cymru.  Gan fod y datblygiad arfaethedig yn bodloni meini prawf Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol gan ei fod yn codi materion o fwy na phwysigrwydd lleol, bydd Gweinidogion Cymru bellach yn penderfynu arno.

"Mae hwn yn brosiect ynni adnewyddadwy sylweddol yr oeddem yn ei gadw'n 'fyw' yn y gobaith y byddai'r ymgeisydd wedi gallu datrys y problemau oedd yn dal i fodoli, ond nid yw hyn wedi digwydd hyd yma.  Bellach, penderfyniad yr ymgeisydd fydd hi i dynnu'r cynigion yn ôl neu barhau gyda nhw."