Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adolygiad meysydd parcio Cyngor Sir Powys

Image of parked cars

12 Hydref 2023

Image of parked cars
Bydd adolygiad meysydd parcio Cyngor Sir Powys yn dechrau'n ddiweddarach y mis hwn a bwriedir i gyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol gael ei gynnal ddydd Iau 16 Hydref.

Ochr yn ochr ag aelodaeth wleidyddol gytbwys o gynghorwyr, bydd y grŵp adolygu hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau tref a busnesau lleol ble y caiff meysydd parcio eu lleoli. Caiff yr adolygiad ei arwain gan ymgynghorydd diduedd ac annibynnol.                                                                                                                                                                                                                                      

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae'n hen bryd i'r adolygiad meysydd parcio trawsbleidiol hwn ddigwydd, ac rydym ni'n falch ein bod ni o'r diwedd wedi gallu rhoi pethau ar waith cyn gynted â phosibl.

"Yn ogystal â chostau parcio ceir, bydd yr adolygiad yn ystyried y ffordd orau o reoli holl feysydd parcio'r cyngor, faint o ymwelwyr sydd yng nghanol trefi, effeithiau a manteision cynlluniau teithio llesol lleol, yr adnoddau sydd ar gael, ac anghenion y cymunedau lleol.

"Yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd cyngor llawn ac mewn mannau eraill, rydym ni'n deall fod brys i'r adolygiad hwn fynd rhagddo a'r nod yw ceisio dod i gasgliad amdano'n fuan a chael yr adroddiad yn ôl erbyn diwedd Ionawr 2024."