Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Camau gorfodi a chwynion

Mae gan Dîm Tai Sector Preifat (Tai Iechyd yr Amgylchedd gynt) ddyletswydd i orfodi deddfwriaeth tai ym Mhowys.

Ein nod yw amddiffyn unigolion rhag niwed a gwella'r amgylchedd lleol er mwyn dylanwadu'n bositif ar ansawdd bywyd dinasyddion Powys.

Rydym yn ceisio gwneud hyn drwy:

  • Gydweithio â Rhentu Doeth Cymru
  • Ymateb i gwynion am dai sy'n cael eu rhentu
  • Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
  • Gwneud eiddo gwag yn addas i'w ddefnyddio eto
  • Cynnig cyngor a chymorth ariannol i berchnogion
  • Trin anghydfod o fewn y gymdogaeth o ran: Plâu, Dadfeiliad, Lleithder, Draeniad, Tai mewn cyflwr gwael,Gwastraff

Mae'r Tîm Sector Tai Preifat, sy'n gweithio o Aberhonddu, Llandrindod a'r Trallwng, yn gweithio i orfodi a rheoleiddio'r ddeddfwriaeth tai perthnasol, gan wella eiddo a thrafod landlordiaid.

Rhentu Doeth Cymru

O Hydref 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun newydd yng Nghymru sy'n ei gwneud yn ofyniad i bob landlord sy'n gosod eiddo, waeth beth fo'i faint, fod â thrwydded a thalu ffi. I gael rhagor o fanylion, ewch i - www.rentsmart.gov.wales

Ymateb i Gwynion am Rent

Mae'n rhaid i landlordiaid sy'n rhentu eiddo eu cadw mewn safon diogel ac yn rhydd o berygl. Os nad ydych chi'n credu bod eich cartref yn cyrraedd y safon hwn, gall fod yn torri'r gyfraith ac fe allwn ni helpu e.e. systemau gwresogi diffygiol.

Mynd i'r afael ag Anghydfod rhwng Cymdogion ac Eiddo Gwag

Os ydych chi'n byw'n agos iawn at eiddo sy'n achosi problemau oherwydd diffyg atgyweirio, lleithder neu fermin.

Mae'n bosibl y gall y cyngor eich helpu.

Cynnig Cyngor a Chymorth i Landlordiaid

Os ydych chi'n landlord sy'n chwilio am help neu wybodaeth am safonau ac ymrwymiadau, bydd y tîm yn falch o'ch helpu. Mae'n bosibl y gallwn gynnig archwiliad am ddim, neu gynnig pecynnau ariannol fyddai o ddiddordeb i chi,

e.e. cyngor ar osod eiddo/diogelwch rhag tân a/neu ddewis benthyciad di-log.

TrwyddeduTai mewn Amlfeddiannaeth (HMO)

Diffiniad syml o Dy Amlfeddiannaeth (HMO) yw un sydd â thri neu fwy o bobl nad ydyn nhw'n perthyn â'i gilydd yn byw ynddo ac yn rhannu cyfleusterau. Mae angen i HMO fel y rhain gydymffurfio â meini prawf a safonau penodol. Mae Deddf Tai 2004 hefyd yn caniatáu i HMO gael eu harchwilio, a'u trwyddedu os oes angen, naill ai dan Gynlluniau Trwyddedu HMO gorfodol neu ychwanegol, gan gynnwys codi'r ffioedd cysylltiedig.

Adeilad tri llawr gyda phump neu fwy o bobl yn byw ynddo ac yn rhannu cyfleusterau yw HMO 'gorfodol'. Mae gan Awdurdodau Lleol ddisgresiwn i gyflwyno cynlluniau trwyddedu ychwanegol ar gyfer HMO eraill nad ydynt o fewn gwmpas y trwyddedu gorfodol. Gall hyn gynnwys fflatiau hunangynhwysol nad ydynt wedi'u trosi'n briodol. (Adran 257 HMO yn ôl diffiniad y Ddeddf Tai).

Os ydych chi'n denant sy'n pryderu am HMO, neu'n landlord sy'n gofyn am safonau, cysylltwch â ni. Nodyn: mae'n drosedd gosod HMO gorfodol heb drwydded, neu HMO heb Gynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol.

Sut mae'r Tîm yn Gweithio

Pan fydd yr Adran Tai Sector Preifat yn derbyn cais, byddwn yn ceisio datrys y mater yn anffurfiol trwy gynnig cyngor neu gymorth ariannol i berchennog yr eiddo. Mae hyn yn aml yn cynnwys archwilio'r eiddo i asesu unrhyw broblemau.

Mae'n bosibl y bydd ein hasesiadau'n defnyddio'r 'System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai'- proses i fesur y tebygolrwydd o gael anaf, neu 'Niwsans Statudol'- gweithdrefn i farnu a yw problem yn 'peryglu iechyd'.

Mae deddfwriaeth yn bodoli hefyd ar gyfer trin problemau penodol megis draeniad ac ati.

Os ydym yn cynnig cyngor neu gymorth ariannol a hynny'n methu, neu os yw'r mater yn fwy difrifol, yna gallwn ystyried dewisiadau gorfodi, er enghraifft cyflwyno rhybudd cyfreithiol, neu hyd yn oed erlyn. Fodd bynnag, ein nod yw cadw'r tenantiaethau sy'n bodoli a datblygu perthnasoedd gweithio agosach gyda landlordiaid lle bo modd.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau