Achrediad DVSA i gerbydau Cyngor Sir Powys
18 Hydref 2023
Mae'r cynllun gwirfoddol, sy'n cael ei weinyddu gan Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (yr Asiantaeth) yn ffordd i weithredwyr cerbydau, fel gwasanaeth fflyd y cyngor, brofi bod y sefydliad yn bodloni safonau diogelwch gyrwyr a cherbydau. Fel aelod achrededig, mae gan y cyngor hen hanes o gydymffurfiaeth a chadw at ofynion rheoleiddiol wrth redeg fflyd o gerbydau a bydd yn rhannu gwybodaeth perfformiad yn rheolaidd gyda'r Asiantaeth.
Cyngor Sir Powys yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru, a dim ond y trydydd yn y DU, i gyflawni'r safonau gofynnol i gael ei dderbyn i Gynllun Cydnabyddiaeth a Enillwyd yr Asiantaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae'r nifer o gerbydau y mae ein fflyd yn eu rheoli a'u cynnal a chadw ledled y sir yn syfrdanol. Mae cael ein derbyn i gynllun yr Asiantaeth yn profi, er gwaetha'r prysurdeb, ein bod ni'n ymroddedig i sicrhau ein bod ni bob amser yn cynnal a chadw safon uchel o ddiogelwch i'r gyrrwr a'r cerbyd."
Ffoto, Chwith i'r Dde: John Forsey, Calais Perry, Y Cynghoryddr Jackie Charlton, Rachel Abbott, Shaun Matthews