Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwelliannau cartref gan denantiaid

Fel tenant efallai y byddwch eisiau gwella eich cartref.

Cyn newid unrhyw beth, rhaid i chi ofyn am ein caniatâd yn ysgrifenedig. Mae hwn yn un o delerau'r contract meddiannaeth. Mae gofyn am ganiatâd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod unrhyw welliannau a wnewch yn ddiogel, o fewn y gyfraith, na fyddant yn dibrisio'r eiddo ac ni fydd yn arwain at gostau ychwanegol i'r cyngor.

Hyd yn oed ar gyfer gwelliannau cymharol fach fel gosod dysgl lloeren, gosod lloriau laminedig, gosod patio neu godi ffens, mae angen i chi ofyn caniatâd.

Nid oes angen caniatâd arnoch i addurno tu fewn eich cartref nac i wneud mân welliannau fel gosod silffoedd neu reiliau llenni.

Caniatâd

Os byddwch yn penderfynu yr hoffech wneud gwelliannau i'ch cartref, dylech gysylltu â ni cyn i chi wneud newidiadau i'ch cartref. Byddwch yn cael cyngor ar sut i wneud gwelliannau yn ddiogel. Byddwn yn eich cefnogi i wella eich cartref, cyn belled â bod eich cais yn rhesymol. Ni fyddwn yn rhoi caniatâd llafar o dan unrhyw amgylchiadau. 

Bydd caniatâd neu wrthodiad bob amser yn ysgrifenedig. Byddwn yn ymateb yn gadarnhaol i gynigion rhesymol i wella eich cartref. Bydd llythyr caniatâd yn nodi unrhyw amodau, gan gynnwys pwy sy'n gyfrifol am gynnal y gwelliant ac a allwch adael y gwelliant ar ôl pan ddaw'r contract i ben. Gall amodau hefyd gynnwys bod gwaith yn cael ei wneud gan berson cymwys.

Dim caniatâd?

Mae gwaith gwella heb ganiatâd ysgrifenedig yn torri amodau'r contract meddiannaeth. Os byddwn yn mynd i gostau oherwydd y gwelliannau anawdurdodedig, gellir codi tâl arnoch chi. Os ydych wedi gwneud newidiadau o'r blaen heb ganiatâd ysgrifenedig, dylech roi gwybod i ni a gallwn eich cynghori os byddwn yn rhoi caniatâd ôl-weithredol, os oes rhaid i chi ddod â'r gwelliant i fyny i'r safon neu os oes rhaid i chi ddadwneud y gwelliant

Cais am ganiatâd i newid yr eiddo

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein os oes gennych gytundeb â Chyngor Sir Powys ac yn dymuno gofyn am ganiatâd ysgrifenedig i wneud newidiadau i'r eiddo rydych yn ei rentu.

Mae angen caniatâd ysgrifenedig gan Gyngor Sir Powys, cyn y caniateir i chi wneud newidiadau i'r eiddo. Ni fyddwn yn gwrthod caniatâd yn afresymol.

Os ydych eisoes wedi gwneud newidiadau neu welliannau i'ch eiddo heb ganiatâd ysgrifenedig, rydych yn torri eich cytundeb.

Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein i ofyn am ganiatâd yn ôl-weithredol.

Mae angen caniatâd, er enghraifft, ar gyfer:

  • tynnu waliau
  • ychwanegu systemau gwresogi newydd
  • ychwanegu cawodydd neu doiledau
  • gosod ceginau newydd
  • gosod addurniadau allanol
  • codi ffensys terfyn
  • torri coed
  • gosod socedi trydan ychwanegol
  • gosod dysgl lloeren neu erial teledu
  • codi llofftydd colomennod neu siediau ffowls
  • codi sied, adeilad tu allan, ystafell haul neu strwythur arall
  • adeiladu garej, llawr caled a/neu gyrbiau isel
  • gosod lloriau laminedig ar unrhyw ystafell yn yr eiddo.

Sylwch fod yr uchod yn enghreifftiau ac nid yw'r rhestr yn cynnwys yr holl waith sydd angen caniatâd ysgrifenedig.

Cais am ganiatâd i addasu'r adeilad Cais am ganiatâd i addasu'r adeilad