Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Peidiwch â cholli allan ar wythnosau olaf y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr

Image of hands holding a mobile phone with the Scan Recycle Reward app on the screen (english)

23 Hydref 2023

Image of hands holding a mobile phone with the Scan Recycle Reward app on the screen (english)
Mae'r treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn Aberhonddu, sydd â dros fil o gyfranogwyr sy'n ennill gwobrau ariannol, yn dod i ben ym mis Tachwedd.

Ar ôl dechrau nôl ym mis Gorffennaf, bydd y treial yn dod i ben yn fuan, ac ni fydd mwy o gynwysyddion diod yn cael eu labelu â'r sticeri eiconig 10c o 1 Tachwedd ymlaen. Bydd gan y rhai sy'n cymryd rhan yn y treial tan Ddydd Mercher 15 Tachwedd i sganio'r codau QR, ailgylchu eu cynwysyddion a hawlio eu gwobr 10c.

Cynhaliwyd y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr gan Gynghrair y DDRS mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, WRAP Cymru, Cyngor Sir Powys a manwerthwyr lleol, a hwn oedd y tro cyntaf yn unrhyw le yn y byd i dref gyfan ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol newydd hon, gan roi Aberhonddu ar flaen y gad o ran arloesi ym maes ailgylchu.

Bydd canfyddiadau'r treial yn cael eu dadansoddi a'u rhannu â gweddill y DU. Ynghyd ag adborth gan gyfranogwyr a'r manwerthwyr dan sylw, bydd y data'n cael ei ddefnyddio i helpu i lunio polisïau llywodraeth Cymru yn y dyfodol a phenderfynu a ellid defnyddio'r math hwn o dechnoleg ddigidol ar gyfer cynllun dychwelyd gyda blaendal yn y dyfodol.

"Mae'r busnesau yn Aberhonddu a'r gymuned leol wedi bod yn wych trwy gydol y treial," meddai Duncan Midwood o Circularity Solutions, y cwmni sy'n arwain y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr.

"Mae wedi bod yn gorwynt o weithgarwch ers i'r treial ddechrau nôl ym mis Gorffennaf ac mae'r tîm prosiect ar lawr gwlad yn Aberhonddu wedi bod yn brysur yn glynu sticeri ar gynwysyddion diodydd, yn cysylltu â manwerthwyr, yn ateb ymholiadau, ac yn cadw pethau i fynd yn gyffredinol am yr ychydig fisoedd diwethaf.

"Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda'r ymateb gan drigolion ac ymwelwyr i Aberhonddu. Mae eu brwdfrydedd dros ailgylchu yn amlwg ac mae'r parodrwydd i roi cynnig ar y dechnoleg newydd, ynghyd â'r mannau dychwelyd o amgylch y dref, wedi bod yn wych.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr, ond fel gyda phob treial, mae'n rhaid iddo ddod i ben, a gallwn gadarnhau mai'r dyddiad olaf ar gyfer sganio'ch cynwysyddion gyda sticeri arnynt, eu hailgylchu a hawlio gwobr fydd dydd Mercher 15 Tachwedd."

Am fwy o wybodaeth, ewch i: Sganio | Ailgylchu | Gwobr