Toglo gwelededd dewislen symudol

Cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu mis nesaf ar gyfer gwaith adnewyddu

Image of Brecon HWRC

24 Hydref 2023

Image of Brecon HWRC
Hoffai Cyngor Sir Powys eich atgoffa y bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu ar Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn cau dros dro ddydd Iau 16 Tachwedd fel bod gwaith uwchraddio diogelwch pwysig yn cael ei wneud i wella profiad y defnyddiwr ar y safle.

Tra bod y ganolfan ailgylchu ar gau, bydd trigolion sy'n dymuno ailgylchu eitemau nad ydynt yn cael eu casglu o ymyl y ffordd, yn gallu ymweld ag un o'r pedair canolfan arall yn y sir, gyda'r un agosaf ohonynt yn Llandrindod (ar agor Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul) a Chwmtwrch Isaf (ar agor Llun, Iau, Gwener, Sadwrn a Sul).

Gellir mynd â chardfwrdd i unrhyw un o'r safleoedd ailgylchu cymunedol lleol canlynol:

Aberhonddu - Richway
Crughywel
Cwmdu
Y Gelli Gandryll
Llangynidr
Pontsenni
Talgarth

Er ein bod yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu dal gafael ar eu gwastraff a'u hailgylchu na ellir eu casglu drwy gasgliadau ymyl y ffordd, neu i fynd ag ef i safle arall, rydym yn gwerthfawrogi nad yw hyn mor hawdd ar gyfer gwastraff gardd. Dros gyfnod y gwaith adnewyddu (yn dechrau o 20 Tachwedd), gellir mynd â gwastraff gardd i hen safle ysgol uwchradd Aberhonddu ym Mhenlan, oddi ar Ffordd Cerrigcochion ar fore Llun, Mawrth, Mercher a Sadwrn (9am-1pm).  

"Rydyn ni'n gwybod na fydd y newyddion y bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Aberhonddu ar gau am dri mis yn cael ei groesawu, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae angen gwneud y gwaith adnewyddu hanfodol hwn sydd wedi'i gynllunio i sicrhau diogelwch pob defnyddiwr a bod y safle'n parhau i fod yn addas i'w ddefnyddio i'r dyfodol.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Potter Group, sy'n rhedeg canolfannau ailgylchu'r cyngor, a'r contractwyr i sicrhau ein bod wedi dewis amser tawelaf y flwyddyn a'n bod yn cadw'r amser y bydd y safle ar gau i'r cyfnod lleiaf posibl.

"Gyda sir mor fawr a gwasgaredig â Phowys, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu deithio'n llawer pellach i ymweld â chanolfan ailgylchu arall tra bod y gwaith adnewyddu yn digwydd. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."

Bydd y gwaith adnewyddu'r ganolfan ailgylchu yn cynnwys mannau caled diogel ar draws y safle, uwchraddio'r gwaith draenio, gwell system un-ffordd gyda mynediad haws ac ardal parcio mwy diogel, ac ardal benodol ar gyfer gadael eitemau i'w 'hail-ddefnyddio'.  Bydd y gwaith yn dechrau dydd Iau 16 Tachwedd, ac yn cymryd tua thri mis i'w gwblhau.

Er na fydd llawer o'r gwelliannau i'r safle yn amlwg i ymwelwyr, maen nhw'n hanfodol i sicrhau bod y cyfleuster yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, yn gweithredu'n ddiogel, ac yn parhau i roi mynediad hawdd i ymwelwyr i'w ddefnyddio.

Edrychwch ar-lein am fanylion a diwrnodau ac amseroedd agor holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Powys: Canolfannau Ailgylchu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu