Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwmni teuluol sy'n cynhyrchu diodydd meddal yw Busnes y Flwyddyn Powys

Radnor Hills - Powys Business of the Year

24 Hydref 2023

Radnor Hills - Powys Business of the Year
Codwyd gwydrau'n llwncdestun i'r busnes teuluol Radnor Hills, y gwneuthurwyr diodydd ysgafn, pan gawsant noson i'w chofio yng Ngwobrau Busnes Powys ddydd Gwener.

Mae gweithlu o 280 gan y cwmni yn Llanddewi Ystradenni ger Tref-y-Clawdd ac fe'i enwyd fel enillydd gwobr gyffredinol Busnes y Flwyddyn Powys dan nawdd Cyngor Sir Powys.

Yn ychwanegol, Radnor Hills oedd enillydd cyntaf Gwobr Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd, sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, yn y seremoni wobrwyo flynyddol a gynhelir yn Yr Hafren, Y Drenewydd. Anhygoel yw nodi fod pawb ond 30 o'r 230 o'r gwahoddedigion wedi llwyddo i fod yn bresennol yn y digwyddiad er gwaetha'r llifogydd ar ffyrdd ledled y sir.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth gyda chymorth oddi wrth noddwyr, mae'r gwobrau deniadol ar agor i gwmnïau, sefydliadau, mentrau cymdeithasol ac elusennau. Cyflwynydd BBC Cymru, Claire Summers, oedd yn arwain y noson wobrwyo am y trydydd tro. 

Cafodd Radnor Hills ei sefydlu yn 1990 gan William Watkins ar ei fferm deuluol ble mae'r dŵr fynnon yn arbennig o bur. Mae trosiant blynyddol y cwmni tua £58 miliwn ac mae'n ceisio dyfod yn fwy cynaliadwy drwy'r amser i ddiogelu'i amgylchedd lleol.

Mae'r cwmni wedi gwneud ymroddiad 'sero i dirlenwi', gan gyflwyno cartonau di-wellt, poteli 100% plastig wedi'i ailgylchu, plannu mwy na14,000 o goed ac ailgylchu popeth sy'n bosibl i'w ailgylchu.

Cafodd system rheoli amgylcheddol Radnor Hills ardystiad safon ISO14001. Mae cyfleuster ailgylchu ar y safle a buddsoddwyd £1.8 miliwn mewn fferm solar newydd i ddarparu 21% o ofynion ynni'r cwmni.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae Radnor Hills wedi arddangos dull gweithredu ymroddgar â chanolbwynt iddo, ble mae rhagoriaeth mewn cynaliadwyedd wrth galon y busnes."

"Mae eu hail-fuddsoddiad parhaus yn y cwmni o ran gweithrediadau, datblygu pobl a safonau amgylcheddol, yn sicrhau eu safle atgyfnerthedig parhaus yn y farchnad heddiw ac i'r dyfodol.

"Wrth weithio mewn amgylchedd heriol mae'r cwmni'n gosod eu golygon yn uwch o ran eu cyfrifoldeb amgylcheddol sy'n eu gosod ar wahân o'r gystadleuaeth. Rydym o'r farn eu bod nhw'n esiampl dda i eraill ac yn llysgennad teilwng wrth chwifio baner busnesau ym Mhowys.

Cafodd y wobr ei chasglu gan ddatblygwr nwyddau ac arloesi Radnor Hills, sef Christian Smith, yn absenoldeb y rheolwr cyffredinol Dave Pope, na allai fod yno oherwydd llifogydd. Dywedodd Christian Smith: "Mae'n fraint cael derbyn y wobr hon sy'n glod i'r cwmni i gyd.

"Mae clod enfawr hefyd yn mynd i berchennog a chreawdwr Radnor Hills sef William Watkins sydd mor angerddol dros y cwmni ac sy'n arweinydd ymarferol iawn."

Ychwanegodd Mr Watkins: "Mae Radnor Hills yn sicrhau fod cynaliadwyedd ar y blaen i bopeth a wnawn. O frig y cwmni i'w waelodion, rydym am sicrhau ein bod ni'n gwneud y peth iawn nid yn unig i Radnor Hills ond hefyd i'r amgylchedd a'r blaned. Wedi'r cyfan, mae'n rhan o'n hanian."

Dathlodd Hilltop Honey o'r Drenwydd hefyd wobr ddwbl drwy gasglu Gwobr Twf dan nawdd EDF Renewables a Gwobr Entrepreneuriaeth dan nawdd Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth.

Enillodd Amye Pickstock a Jake Sampson, landlordiaid The Abermule Inn, Aber-miwl, Wobr Arbennig y Beirniaid, ac enillydd cyntaf y Wobr Unig Fasnachwr, dan nawdd Powys County Times, oedd Sue Lewis o Wash & Wags, sef busnes grŵmio cŵn o Libanus, Aberhonddu.

Enillodd Coleg y Mynydd Du, Talgarth Wobr Busnes Bach, dan nawdd WIPAK; enillodd CastAlum Limited, Y Trallwng Wobr Dechnoleg ac Arloesedd, dan nawdd Cellpath; enillodd EOM Electrical Contractors, Y Drenewydd Wobr Twf Busnes Bach dan nawdd WR Partners; enillodd FieldMouse Research Ltd, Trefaldwyn, Wobr Microfusnes, dan nawdd Grŵp Printio'r Trallwng; enillodd Great House Farm Luxury Pods and Self Catering yn Llandeilo Graban, Llanfair-ym-Muallt Wobr Dechrau Busnes, dan nawdd EvaBuild; enillodd Pave Aways Ltd, Y Drenewydd Wobr Datblygu Pobl, dan nawdd Grŵp Colegau NPTC ac enillodd The Arches - Rhayader & District Community Support, Wobr Menter Gymdeithasol / Elusen, dan nawdd Myrick Training Services ac yn Ail am y gwobrau oedd: 

Gwobr Dechrau Busnes: Espanaro Ltd, Newtown a The Abermule Inn. Gwobr Entrepreneuriaeth: Hummingbird, Y Drenewydd ac Espanaro Ltd. Gwobr Microfusnes: Waggon and Horses, Y Drenewydd ac Advantage Automotive Ltd, Llanandras. Gwobr Twf: Morland UK, Y Trallwng; Links Electrical Suppliers Ltd, Y Drenewydd a Grŵp SWG Group, Y Trallwng. Gwobr Busnesau Bach: ESCO/ M&S Pizza, Maesyfed a PM Training & Assessing Ltd, Crug Hywel. Gwobr Menter Gymdeithasol / Elusennol:Siop Llangors Shop, Llangors, Aberhonddu a Grŵp Maesmawr, Llandinam. Gwobr Twf Busnes Bach: Gwasnaethau Cyfrifeg KC, Llanfyllin a The Abermule Inn. Gwobr Dechnoleg ac Arloesi: PM Training and Assessing Ltd ac Arcticfox Adaptive Ltd, Trefaldwyn. Gwobr Datblygu Pobl: CastAlum Ltd, Charcroft Electronics, Llanwrtyd a Grŵp Busnes y Gororau, Llandrindod. Gwobr Unig Fasnachwr: The Prized Pig, Aber-miwl a Dark Sky Escapes, Aberhonddu. Gwobr Rhagoriaeth Mewn Cynaliadwyedd: Splosh Limited, Y Drenewydd a Thŷ Gwledig Plas Dinam, Llandinam.

 

Llun: Y Cynghorydd David Selby yn cyflwyno Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys i Christian Smith o Radnor Hills.