Lefel 2

Tîm Golygyddol y Cylchlythyr
Mae'r Cylchlythyr "Newyddion i Denantiaid" yn cael ei gynhyrchu a'i anfon i holl denantiaid Cyngor Sir Powys, y Cynghorwyr Sir a'r Staff Tai ddwywaith y flwyddyn. Mae'n cynnwys gwybodaeth ac erthyglau a gynhyrchwyd gan staff a thenantiaid ar faterion o ddiddordeb. Mae'r Panel Craffu Tenantiaid yn cyfrannu at gynnwys y cylchlythyr.
Caru Lle Ry'ch Chi'n Byw
Mae'r Swyddogion Ymgysylltu â Phreswylwyr yn treulio amser allan ar ein stadau trwy gydol y flwyddyn. Maent yn trefnu digwyddiadau stad mewn partneriaeth ag adrannau eraill y Cyngor (e.e., sbwriel ac ailgylchu). Anogir cynrychiolwyr tenantiaid y Panel Craffu Tenantiaid i ymuno yn yr ymweliadau/digwyddiadau hyn.