Cadw'n Heini

Mae problemau balans a/neu wendid cyhyrau hefyd yn achosi cwympiadau. Mae'n well aros mor actif â phosibl a gwella cryfder trwy ymarfer corff rheolaidd - gall hyd yn oed ychydig o symudiadau helpu.
Trwy adeiladu cryfder y cyhyrau yn y coesau, y breichiau, y cefn, yr ysgwyddau a'r frest, gallwch chi neu'ch perthynas oedrannus wella ystum, cydsymudiad a balans, gan leihau'r risg o gwympo.
Dyma ddolenni cymorth y gallech fod â diddordeb ynddynt: -
- Cymorth a dosbarthiadau arbenigol ar gael trwy feddygon teulu trwy NERS
- Efallai y bydd dosbarthiadau cryfder a balans ar gael yn eich ardal leol.
- Mae Tai Chi yn ymarfer da ar gyfer cryfder a chydbwysedd i'r rhai nad ydynt yn fregus.
- Mae rhywbeth yn well na dim.
- Gwnewch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau.
- Canllawiau da gan NHS Choices, PDC, Age Cymru, gwefan Dewis Cymru
Cadw'n Egnïol Gartref - Ymarferion cryfder a balans ar gyfer oedolion hŷn.