Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gwrdd â'r Comisiynydd ar 27 Hydref

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo

25 Hydref 2023

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo
Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn ystod cyfarfod nesaf y Panel yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron am 10.30am ddydd Gwener, 27 Hydref.

Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod ddydd Gwener yn cynnwys cwestiynau gan y Panel i'r Comisiynydd ynghylch y broblem lladrata o siopau, cynnydd y broblem yn genedlaethol ac ymateb Heddlu Dyfed-Powys iddi. Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn cael ei holi am y peryglon y mae defnyddio e-sigaréts yn eu peri i bobl ifanc a'r rôl sydd gan swyddogion cyswllt yr heddlu ag ysgolion wrth fynd i'r afael â'r broblem hon. Bydd y Panel hefyd yn gofyn i Dafydd Llewelyn am adnoddau'r Heddlu i orfodi'r terfynau cyflymder newydd o 20mya yn Nyfed a Phowys.

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn cyflwyno Protocol Plismona'r Heddlu - Adroddiad Perfformiad, Adroddiad "Deep Dive" ynghylch Stelcian ac Aflonyddu ynghyd â Chynllun Busnes Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Dywedodd Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, yr Athro Ian Roffe: "Mae llawer o storïau newyddion yn y wasg yn ddiweddar am blismona yn ardal Dyfed Powys ac rydym am glywed gan y Comisiynydd ynghylch y canlyniadau o ran sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol am gamau plismona."

Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron am 10.30am ddydd Gwener, 27 Hydref.