Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae'n DDYCHRYNLLYD faint o bwmpenni sy'n gorffen yn y bin bob blwyddyn!

Image of a Halloween pumpkin

25 Hydref 2023

Image of a Halloween pumpkin
 Gyda chalan gaeaf ar y gorwel, rydym yn annog pobl Powys i sicrhau na fydd eu pwmpenni'n dod i ddiwedd dychrynllyd trwy gael ei daflu gyda gweddill y sbwriel.

Yn ôl ymchwil newydd yr elusen amgylcheddol Hubbub, disgwylir i 30 miliwn o bwmpenni gael eu prynu yn y DU i'w cerflunio, a disgwylir i 16 miliwn o'r rheiny gael eu taflu allan gyda sbwriel arferol y cartref. Mae hynny gyfystyr â gwastraffu pwmpenni gwerth 95 miliwn pryd bwyd, sy'n werth £26.7 miliwn.

Yn agosach i adref, bydd trigolion Powys yn prynu tua 63,000 o bwmpenni adeg Calan Gaeaf, gan greu 135 o dunelli o wastraff bwyd ychwanegol yn y broses.  Beth sydd fwyaf dychrynllyd yw bydd y rhan fwyaf yn cael eu defnyddio ar gyfer addurn yn unig a byth yn cael eu bwyta.

Mae timoedd ailgylchu'r cyngor am ein hatgoffa ni hefyd, yn ogystal â defnyddio'r croen i gerfio, mae tu fewn y pwmpenni'n gwneud cawl, tarten neu hyd yn oed lasagne blasus.   Gallwch hyd yn oed bobi'r hadau i wneud snac blasus.  Mae gwefan caru bwyd, casau gwastraff yn cynnwys llwyth o ryseitiau: www.lovefoodhatewaste.com

Pan fyddan nhw wedi dod i ben, gallwch roi'r hen bwmpenni ar eich tomen gompost neu eu torri a'u rhoi yn eich cadi bwyd.  Os ydyn nhw'n fawr iawn (ac heb bydru gormod) gallwch eu rhoi ar ben eich cadi bwyd i'w casglu unwaith yn unig gan y criw ar ôl Calan Gaeaf.  Cofiwch dynnu unrhyw ganhwyllau'n gyntaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Gwyrdd, y Cynghorydd Jackie Charlton: "Mae'r rhan fwyaf o bobl ym Mhowys yn wych am ailgylchu eu gwastraff bwyd bob wythnos.  Felly eleni, rydym yn gobeithio'n fawr y byddwch yn parhau â'r gwaith da ac yn rhoi unrhyw bwmpen sydd dros ben yn syth yn y cadi gwastraff bwyd.

"Mae'n syfrdanol darganfod y byddai plisgyn allanol pob pwmpen unigol yn gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru aelwyd deuluol gyfartalog am awr gyfan, ac y byddai'n mynd yn bell tuag at gefnogi ymgyrch Cymru i greu rhagor o ynni gwyrdd trwy weithfeydd treulio anaerobig.

"Felly cofiwch, ar ôl bwyta gymaint ag y gallwch o'r bwmpen, a chael hwyl yn gwneud lanterni brawychus, rhowch y gweddillion yn y bin bwyd a gwneud eich rhan i greu dyfodol mwy glân a gwyrdd."

Am ragor o wybodaeth ar wastraff bwyd, ailgylchu, eich bocsys ailgylchu, neu am awgrymiadau defnyddiol ar beth y gallwch neu na allwch eu hailgylchu, ewch i: Biniau, sbwriel ac ailgylchu