Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Powys Gynaliadwy

Delwedd gydag adeiladau, ceir a choed ochr yn ochr â'r pennawd: "Powys Gynaliadwy".

26 Hydref 2023

Delwedd gydag adeiladau, ceir a choed ochr yn ochr â'r pennawd:
Bydd Cyngor Sir Powys yn dilyn ymagwedd newydd ynghylch sut mae'n cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae'r cyngor eisiau gwybod a all gyflenwi gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach wrth symud ymlaen, gan barhau oddi fewn i'r gyllideb sydd ar gael.

Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn rhagweld bwlch o dros £20miliwn ar gyfer y blwyddyn ariannol 2024/25. Disgwylir i hyn godi i £44miliwn neu ragor dros y pedair blynedd nesaf. Mae 'Powys Gynaliadwy' yn ymagwedd rhagweithiol i fynd i'r afael â hyn - gan adolygu pa wasanaethau sy'n cael eu darparu a sut, gan weithio gyda chymunedau i archwilio drwy'r atebion arloesol.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet â'r portffolio ar gyfer Powys Gynaliadwy: "Mae cyflenwi gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth galon popeth a wnawn. Wrth i'r amseroedd a'r amodau economaidd newid, mae angen i ni fod yn rhagweithiol, arloesol a meddwl yn flaengar i gynnal gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd a chyngor ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r argyfwng economaidd cyfredol a chynnydd mewn costau byw yn cynyddu'r pwysau ariannol a chyflwyno bwlch sylweddol o ran y cyllid sydd ar gael i ni. Yn y bôn, mae hyn yn golygu na allwn fforddio parhau i gyflenwi ein gwasanaethau yn yr un modd.

"Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor yn disgwyl i'r gwasanaethau ddyfod yn fwy effeithlon. Nid yw hyn yn gynaliadwy yn yr hir dymor a bellach mae angen i ni fod yn fwy radical a newid ein hymagwedd.

"Mae Powys Gynaliadwy yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i: gynllunio dyfodol ac adeiladu gwytnwch fel y gall atebion sy'n cael eu harwain gan gymunedau helpu i fodloni anghenion lleol.

Mae Powys Gynaliadwy yn ei gyfnod cynnar, a bydd gwybodaeth bellach am y gwaith a sut allwch gymryd rhan yn dilyn dros y misoedd a ddaw."