Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i ymddeol

Image of Lynette Lovell

27 Hydref 2023

Image of Lynette Lovell
Cyhoeddwyd y bydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys, Lynette Lovell yn ymddeol o'i swydd gyda'r cyngor y flwyddyn nesaf.

Yn gyn pennaeth ac uwch swyddog gyda dros 30 mlynedd o wasanaeth gyda Phowys, mae Lynette wedi cyhoeddi y bydd hi'n ymddeol ddiwedd mis Mawrth.

"Rwyf wedi gweithio i Gyngor Sir Powys ers dros 30 mlynedd, ac wedi mwynhau fy ngyrfa'n fawr iawn. Mae wedi bod yn fraint gweithio i ac arwain y Gwasanaethau Plant a'r Adran Addysg dros y blynyddoedd diweddar," meddai.

Wrth ddiolch i Lynette am ei gwaith, dywed y Prif Weithredwr, Emma Palmer "Yn ystod ei gyrfa ddisglair mae Lynette wedi cyflawni swyddi fel Pennaeth Ysgol, Pennaeth a Chyfarwyddwr Addysg y sir, ac yn fwy diweddar, mae hi wedi bod yn gyfrifol am y Gwasanaethau Plant. Mae ei chyfraniad i'r awdurdod wedi bod yn enfawr, a dymunwn y gorau iddi yn ystod ei hymddeoliad Bydd hi'n anodd llenwi esgidiau Lynette, a byddwn yn gweld ei heisiau'n fawr."

Bydd y cyngor sir yn dechrau'r broses o recriwtio olynydd i'r swydd yn y dyfodol agos.