Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dyled Fy Nghyngor

Mae gan Gyngor Sir Powys dimau profiadol ac ymroddedig i'ch helpu i drin eich dyledion sy'n ddyledus i ni. Mawr neu fach, rydyn ni yma i chi.

Gallwn eich helpu i leihau a rheoli sawl ffynhonnell dyled. Byddwn yn asesu eich sefyllfa ac yn cynnig cyngor ac argymhellion wedi'u teilwra'n arbennig i chi, gan wneud cais am gynlluniau perthnasol ar eich rhan i helpu i leihau eich gwariant.

Mae 4 math o ddyledion y mae'r tîm adennill yn gyfrifol am eu hadennill, sef:

  • Ôl-ddyledion Treth y Cyngor
  • Ôl-ddyledion Trethi Busnes
  • Gordaliadau Budd-daliadau Tai
  • Arall (a elwir yn Fân Ddyledion)

 

Sut gallwn ni eich helpu chi?

 

Rwy'n mynd i'w chael hi'n anodd talu anfoneb a dderbyniais gan Gyngor Sir Powys

Os ydych wedi derbyn anfoneb gennym ond yn meddwl y gallech gael trafferth ei thalu, cysylltwch â ni ar y rhif sydd ar yr anfoneb a byddwn yn cynnig rhywfaint o gefnogaeth/canllaw i chi allu gwneud taliadau. 

 

Rwyf wedi derbyn gwŷs gan Gyngor Sir Powys

Os ydych chi wedi derbyn gwŷs, bydd gofyn ichi gysylltu â'r tîm Adfer i drefnu taliadau trwy ffonio'r rhif a nodir ar eich gwŷs, ac wedyn dilyn yr opsiynau a nodir.

Os na ellir adennill dyled, yna trosglwyddir y ddyled i gwmni'r beili.

 

Rwyf am godi anghydfod ynghylch dyled sydd gennyf

Os oes gennych ddyled yn ymwneud ag anfoneb hwyr a'ch chithau'n dymuno codi anghydfod gyda'r gwasanaeth, llenwch y ffurflen isod

Ffurflen Anghydfod Ffurflen Anghydfod

 

Newid mewn Amgylchiadau

Os bu newid yn eich amgylchiadau y mae angen i ni wybod amdano, a fydd yn effeithio ar eich gallu i gyfathrebu â ni, eich gallu i dalu rhandaliad ac ati (h.y. wedi symud tŷ (ond ddim yn atebol am y bil Treth y Cyngor), colli gwaith, newid manylion banc ac ati) llenwch y ffurflen isod.

Ffurflen Newid Amgylchiadau Ffurflen Newid Amgylchiadau

 

Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan?

Gall ein tîm sydd wedi'i hyfforddi a'i achredu gynnig amrywiaeth o gyngor am ddim ynglŷn ag arian a chymorth i chi.