Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan?

A man in a wheelchair

Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Gwnewch gais i'r Gronfa Cymorth Dewisol: https://www.llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf

Os ydych chi'n fregus, gall ein Tîm Cyngor Ariannol eich helpu i wneud cais: https://cy.powys.gov.uk/gyngorararian

Gall tenantiaid y Cyngor hefyd gael help gan ein Swyddogion Cymorth Ariannol: Swyddogion Cymorth Ariannol

Efallai y bydd oedi byr oherwydd galw uchel.

 

Gofyn am gyngor ar arian Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth am ddim a chyfrinachol i chi.

Mae ein tîm hyfforddedig ac achrededig yn gallu cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth i chi am arian un ai dros y ffôn yn 01597 826618 neu apwyntiad personol yn eich cartref neu yn swyddfa lleol y cyngor, neu yn y gymuned i'ch helpu chi gyda:

  • Sut i wneud yn fawr o'ch incwm.
  • Budd-daliadau lles; helpu i wneud cais am fudd-daliadau, grantiau lles, cyngor ar eich hawliau a chymorth parhaus
  • Helpu i reoli eich costau tanwydd a sut orau i wresogi eich cartref
  • Helpu i reoli eich dyledion.
  • Trafod eich opsiynau gyda'r ddyled newydd Lle i Anadlu, all roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb effeithiol a thymor hir ar ddelio â'ch dyledion a'ch helpu chi symud ymlaen.
  • Helpu chi reoli eich cyllid trwy gyllidebu'n well.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynnig cymorth a chymorth arbenigol ar arian a budd-daliadau i gleifion canser a'u gofalwyr. Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys

Newid i Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn byw ym Mhowys ac yn derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (a ddim yn derbyn Budd-dal Tai), byddwch yn derbyn Hysbysiad Symud Gweinyddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) ym mis Ionawr/Chwefror 2024 ymlaen. Darllenwch fwy yma: Credyd Cynhwysol

 

Rhannwch y dudalen hon