Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor yn cynnig parcio am ddim yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig

Image of parked cars

31 Hydref 2023

Image of parked cars
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd parcio am ddim yn cael ei gynnig mewn meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys am dri diwrnod siopa allweddol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Croesawyd y fenter gan y grŵp adolygu meysydd parcio trawsbleidiol, a ddaeth at ei gilydd mewn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Iau, 26 Hydref.  Bydd y fenter nawr yn cael ei rhoi ar waith gan y cyngor.

Bydd y cyngor yn darparu parcio am ddim yn ei feysydd parcio arhosiad hir ddydd Sadwrn 9, dydd Sadwrn 16 a dydd Sadwrn 23 Rhagfyr rhwng 10am a 6pm.

Bydd y fenter yn berthnasol i feysydd parcio oddi ar y stryd yn unig ac nid yw'n newid y cyfyngiadau parcio presennol ar y stryd.   Bydd parcio am ddim mewn meysydd parcio arhosiad byr am uchafswm o ddwy awr yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach a Chadeirydd y grŵp adolygu meysydd parcio trawsbleidiol: "Mae'n wych dechrau ar waith yr adolygiad, ac roeddwn yn falch iawn o'r cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan gynrychiolwyr ac roeddent yn gefnogol o'n penderfyniad yn yr haf i gynnig parcio am ddim yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

"Rwy'n siŵr y bydd y fenter yn cael ei chroesawu gan siopwyr a busnesau ar draws y sir. Bydd yn rhoi hwb amserol i economi'r sir yn ystod y cyfnod siopa prysuraf y flwyddyn.

"Mae economi'r sir yn hanfodol i bawb a gall cyfnod yr ŵyl wneud gwahaniaeth gwirioneddol i nifer fawr o fusnesau, felly mae'n rhaid i unrhyw gymorth i gynyddu gwariant fod yn werth chweil.

"Hoffwn ddiolch i'r cynrychiolwyr ar y grŵp adolygu am y gwaith y byddant yn eu gwneud dros y misoedd nesaf. Mae'r grŵp adolygu yn bwriadu cyfarfod ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr i drafod sawl thema, gan dynnu tystiolaeth, strategaethau a syniadau at ei gilydd i roi persbectif newydd wrth sicrhau cydbwysedd rhwng uchelgais a'r hyn sy'n ymarferol.

"Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd adroddiad adolygu meysydd parcio yn cael ei gyflwyno a'i adolygu gan y pwyllgor craffu perthnasol ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, cyn y bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud."