Y Broses Gynllunio
Cyhoeddusrwydd ac Ymgynghori
Pan fo cais dilys am ganiatâd cynllunio wedi'i gyflwyno, mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau cynllunio lleol i roi cyhoeddusrwydd ac ymgynghori.
Mae'r term 'cyhoeddusrwydd' yn cyfeirio at roi rhybudd bod cais wedi'i dderbyn fel bod cymdogion a phartïon eraill â diddordeb yn gallu lleisio eu barn. Mae 'ymgynghoriad' yn gwahodd barn cyrff arbenigol ar fathau penodol o ddatblygiadau.
Yn gyffredinol, mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio hysbysiadau safle i roi cyhoeddusrwydd i geisiadau cynllunio. Dylai hysbysiadau gael eu harddangos ar neu ger y safle a dylent fod yn weladwy ac yn ddarllenadwy i unrhyw un sy'n mynd heibio heb fod angen mynd i mewn i'r safle i'w darllen.
Fel arfer bydd angen mwy nag un hysbysiad ar gyfer safle datblygu mawr a allai fod â nifer o ffyrdd a llwybrau troed yn arwain ato, neu a allai fod â mwy nag un ffryntiad.
Gellir cyflwyno sylwadau ynghylch cais am ganiatâd cynllunio hyd at a chan gynnwys 21 diwrnod o'r dyddiad y cyhoeddwyd y cais am y tro cyntaf. Ond dylid hefyd ystyried unrhyw sylwadau perthnasol a dderbynnir ar ôl y cyfnod hwn os nad yw'r cais wedi'i benderfynu. Dylid cyflwyno pob sylw yn ysgrifenedig (mae e-bost yn dderbyniol) er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ffurfiol.
Mater i ddisgresiwn yr Awdurdodau Cynllunio Lleol yw a ddylent gynnal ymarferiad cyhoeddusrwydd ychwanegol os caiff cais ei ddiwygio, neu os cyflwynir gwybodaeth ychwanegol unwaith y bydd y cyfnodau cyhoeddusrwydd ac ymgynghori wedi mynd heibio ond nad yw'r cais wedi'i benderfynu. Os bernir bod angen ymgynghori ymhellach, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu pa ofynion cyhoeddusrwydd sy'n ddigonol.