Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

#NewidYStori i fenywod a merched

Last year's White Ribbon Walk in Brecon

1 Tachwedd 2023

Last year's White Ribbon Walk in Brecon
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn pedair taith gerdded sydd i'w cynnal yn y sir ar ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, er mwyn dangos eu cefnogaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched.

Maent yn cael eu trefnu gan y cyngor sir i gefnogi mudiad byd-eang y Rhuban Gwyn, sy'n annog pobl eleni i #NewidYStori mewn perthynas ag ymddygiad ac agweddau niweidiol a seilir ar genedl.

Bydd y teithiau yn cychwyn am 11am o'r lleoliadau canlynol:

  • Tŷ Cychod y Llyn, Llandrindod
  • Maes parcio Heol Dinas, Aberhonddu
  • Neuadd y Dref, Y Trallwng
  • Canolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd, Stryd y Parc

Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd y teithiau sy'n digwydd yng nghanol y trefi.

"Dewch i ymuno â ni ar gyfer un o'r pedair taith ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, ac o ran gwneud dewisiadau a gweithredu i #NewidYStori ar gyfer menywod a merched, er mwyn iddynt gael byw heb ofn trais," meddai'r Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys, ac un o Genhadon Arweiniol Rhuban Gwyn y cyngor.

"Hefyd, hoffwn annog dynion a bechgyn ym Mhowys i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel ynghlych trais yn erbyn menywod a merched; gellir gwneud hyn ar-lein ar wefan Rhuban Gwyn y DU yma: https://www.whiteribbon.org.uk/promise?rq=promise ."

Dyma'r llwybrau cerdded ar Google Maps:

Yn ogystal, bydd stondin yng Nghanolfan Siopa Bear Lanes ddydd Sadwrn 25 Tachwedd rhwng 11am - 2pm, i godi ymwybyddiaeth am nodau mudiad y Rhuban Gwyn, a bydd Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn yn dosbarthu larymau diogelwch personol am ddim, ynghyd â chyngor a gwybodaeth.

Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad achrededig y Rhuban Gwyn, sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod mewn cymunedau ym Mhowys, gan wella diwylliant ei weithle ei hun a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.

Mae Rhuban Gwyn y DU yn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched trwy annog dynion a bechgyn i newid eu ffordd o ymddwyn: https://www.whiteribbon.org.uk/

Eleni mae'n tynnu sylw at y ffeithiau hyn:

  • Mae bron i 1 allan o 4 o enethod mewn ysgolion cymysgryw wedi cael profiad o gyffwrdd rhywiol dieisiau yn yr ysgol. (EVAW)
  • Mae 6 o bob 10 o ferched wedi cael eu harasio yn y gampfa gan ddyn. (Yr Adroddiad Gym-timidation)
  • Mae 30% o ferched wedi profi harasio yn y gweithle a 81% wedi adrodd eu bod wedi cael eu harasio gan ddyn / dynion. (Swyddfa Ystradegau'r Llywodraeth)
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, roedd 1.7 miliwn o ferched wedi profi cam-drin yn y cartref. (ONS)

LLUN: Teithiau cerdded y llynedd yn Aberhonddu.