Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Paratoadau at Storm Ciarán

Image of rain and a warning icon

1 Tachwedd 2023

Image of rain and a warning icon
Wrth baratoi at Storm Ciarán, mae Cyngor Sir Powys yn cydweithio ag asiantaethau partner a grwpiau llifogydd lleol i sicrhau bod cymunedau'n barod ar gyfer y glaw trwm a chyson a ddisgwylir.

Mae paratoadau ar y gweill i helpu i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel. Mae timau allan yn gwirio bod amddiffynfeydd llifogydd mewn cyflwr da, yn clirio gylïau a ffosydd a gosod amddiffynfeydd dros dro lle bo angen i helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau.

" Mae ein swyddogion wedi bod wrthi'n gweithio'n galed gyda'n partneriaid nid yn unig yn clirio ar ôl Storm Babet ond hefyd yn paratoi at Storm Ciarán." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach.

"Mae amddiffynfeydd llifogydd ar draws y sir yn barod i gael eu defnyddio ac mae cyflenwadau o fagiau tywod yn barod i'w defnyddio yn y depos, os oes angen. Mae mannau lle mae llifogydd yn broblem yn cael eu monitro, ac mae staff yn ymgysylltu â grwpiau llifogydd lleol i sicrhau bod cymunedau mor barod ag y gallant fod.

"Rydym yn annog trigolion i ystyried unrhyw gamau y gallent eu cymryd nawr i fod yn barod ar gyfer y tywydd gwael, i gymryd gofal ychwanegol os oes angen i chi deithio, ac i gadw at unrhyw rybuddion a gyhoeddir dros y dyddiau nesaf."

I gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd, neu am ddod i ben â hwy, ewch i: Llifogydd