Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae'r tîm caffael yn GO-falu am yr amgylchedd

A person inputting a credit card number

1 November 2023

A person inputting a credit card number
Mae'r gwaith i leihau ôl-troed carbon Cyngor Sir Powys trwy newid ei ffordd o brynu nwyddau a gwasanaethau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.

Nawr mae'r Tîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol yn gobeithio ennill y categori Caffael Cynaliadwy yng Ngwobrwyon GO Cymru 2023/24, fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Mae'r tîm wedi adnabod y cyflenwyr sy'n gyfrifol am yr allyriadau carbon uchaf, a'r meysydd risg uchaf er mwyn gallu targedu'r rhain i arwain at y gwelliannau mwyaf. Hefyd mae'n sicrhau y caiff cynaliadwyedd ei ystyried o gychwyn cyntaf pob prosiect, ac mae wedi llunio pecyn cymorth i ategu hyn ac i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o fewn y cyngor am gaffael cynaliadwy, crëwyd Rhwydwaith Gwyrdd o swyddogion, a'r gobaith yw y byddan nhw'n mynd ati i hyrwyddo gwelliannau pellach o fewn eu meysydd gwasanaeth unigol.

O safbwynt allanol, gofynnwyd i gyflenwyr sy'n derbyn dros £200,000 y flwyddyn am gyflenwi gwasanaethau i'r cyngor rannu eu cynlluniau lleihau carbon gyda'r tîm, gyda'r nod o hysbysu'r strategaeth prynu yn y dyfodol a'r ffyrdd gorau o gefnogi cyflenwyr i wireddu newid.

"Mae'r gwaith a wnaethpwyd i sicrhau fod ein hymarferion caffael mor gynaliadwy â phosibl yn hollbwysig os byddwn yn gwireddu ein nod o greu Powys gryfach, decach a gwyrddach," meddai'r Cyng David Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, "oherwydd, dengys ein hymchwil ni fod ein cadwyn cyflenwi'n gyfrifol am 70% o'n hallyriadau carbon.

"Hoffwn longyfarch y Tîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol ar eu llwyddiant wrth gyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrwyon GO, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y seremoni yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd."

Cyflawnwyd y gwaith yma fel rhan o raglen trawsnewid Hinsawdd a Natur y cyngor; nod y rhaglen yw ei helpu i gyrraedd Sero Net o ran allyriadau carbon erbyn 2030 ac i ddiogelu a rheoli mewn ffordd gadarnhaol 30% o dir a dŵr y sir er budd natur erbyn yr un dyddiad.

Mae Gwobrwyon GO yn dathlu cyraeddiadau sefydliadau cyhoeddus, preifat a sector gwirfoddol Cymru o safbwynt caffael: https://wales.goawards.co.uk/